S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb S4C i Ddatganiad Terfynol Ofcom – Cam 2 o’r ail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

21 Ionawr 2009

Mae S4C yn croesawu datganiad Ofcom heddiw sydd yn cadarnhau lle canolog y Sianel fel darlledwr cyhoeddus o bwys ac sy’n pwysleisio’r angen i’r llywodraeth barhau i ariannu S4C.

Gydol yr Adolygiad mae S4C wedi canolbwyntio ar greu syniadau sydd yn berthnasol i Gymru er mwyn diogelu a chryfhau’r ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus i wylwyr.

Mae’r Adolygiad wedi pwysleisio’r angen i sefydlu model newydd cynaliadwy ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus ynghyd â chynnal amrywiaeth ym maes newyddion a diogelu gwasanaethau i blant.

Mae cynnig S4C ym maes newyddion, sydd wedi ei gynnwys yn adroddiad Ofcom, yn mynd i’r afael â’r heriadau sy’n wynebu’r gwasanaeth Saesneg i Gymru ar ITV a’r pwyslais ar amrywiaeth. Mae’n amserol i ystyried y gwasanaeth newyddion Cymraeg ar S4C er nad yw hyn yn adlewyrchiad ar y ddarpariaeth bresennol gan BBC Cymru ar gyfer S4C.

Mater i’r llywodraeth yw penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?