S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

ABC S4C yn cipio gwobr fawr

18 Mawrth 2009

Mae’r rhaglen feithrin ABC, a ddarlledir ar wasanaeth newydd S4C, Cyw, wedi ennill y categori Plant yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS).

Mae’r gyfres, a gynhyrchir i S4C gan Boomerang Plus ccc, yn defnyddio cymysgedd o bypedwaith byw ac animeiddio i gyflwyno’r wyddor Gymraeg i blant mewn dull difyr ac arloesol.

Fe gynhyrchir ABC gan Angharad Garlick a Helen Davies, a’r cyflwynydd yw Gareth Delve.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: “Rwy’ wrth fy modd gyda llwyddiant ABC. Roedd yn gryn gamp i gyrraedd y tri olaf mewn categori sy’n cynnwys yr holl amrywiaeth o raglenni plant, o bob oed a phob math. Mae ennill y wobr ei hun yn ganlyniad penigamp.

“Mae’r wobr yn adlewyrchu gwerthoedd cynhyrchu uchel ein gwasanaeth plant, sy’n darparu rhaglenni meithrin pwrpasol, dros chwe awr y dydd, pum niwrnod yr wythnos.

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad arobryn hwn.”

Fe gurodd ABC gyfres Channel 4, Lifeproof a chyfres BBC 2, Get Squiggling i ennill y categori. Cyhoeddwyd yr enillwyr yn seremoni wobrwyo’r RTS a gynhaliwyd neithiwr, nos Fawrth, 17 Mawrth, yng ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?