S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Canmol S4C am alluogi cynulleidfaoedd i wylio’r Sianel

12 Chwefror 2009

 Mae S4C wedi cael ei chanmol gan bwyllgor o Aelodau Seneddol am y ffordd y mae'r sianel yn galluogi cynulleidfaoedd drwy'r Deyrnas Unedig a thu hwnt i wylio rhaglenni teledu yn yr iaith Gymraeg ac am ei chyfraniad i economi Cymru. Rhoddodd y sianel dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i effeithiau globaleiddio ar Gymru.

Dywed adroddiad yr Aelodau Seneddol a gyhoeddir heddiw, "Rydym yn llongyfarch S4C ar ei llwyddiant yn cyrraedd y Cymry ar wasgar drwy ddulliau dyfeisgar fel darparu gwasanaethau teledu lloeren, ar-lein a thrwy Deledu Protocol y Rhyngrwyd."

Nodwyd hefyd gan y pwyllgor fod S4C, drwy ei gweithgareddau, yn cyfrannu tuag at greu 2,200 o swyddi yng Nghymru ac yn helpu creu trosiant o fwy na £85 miliwn o fewn yr economi Gymreig.

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd S4C, "Mae hyn yn dangos bod gan y pwyllgor seneddol dylanwadol hwn hyder yn y gwaith a gyflawnir gan S4C yn ein hymroddiad i wasanaeth darlledu cyhoeddus a'r ffaith ein bod yn gwneud y gorau o'r arian cyhoeddus a dderbyniwn i alluogi cymaint â phosibl i fwynhau ein rhaglenni. Rhaid imi longyfarch ein Prif Weithredwr, Iona Jones, a'i thîm sy'n sicrhau llwyddiant S4C ac mae'n galonogol gwybod bod seneddwyr hefyd yn cydnabod yr hyn sy'n cael ei gyflawni."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?