S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cymru – Pencampwyr y Byd Uchafbwyntiau Cwpan y Byd 7 Bob Ochr ar S4C

10 Mawrth 2009

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Cymru ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd 7 Bob Ochr ddydd Sadwrn, bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau ymgyrch y Crysau Cochion, gan gynnwys y fuddugoliaeth yn erbyn Ariannin.

Bydd gan wylwyr y sianel gyfle i weld pencampwyr newydd y byd mewn rhaglen arbennig, Cwpan y Byd 7 Bob Ochr, heno am 10.00pm ac eto nos Sadwrn 14 Mawrth am 9.20pm.

Ennill o 19-12 oedd hanes Cymru yn erbyn Ariannin yn rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Dubai.

Bydd y rhaglen hefyd yn dilyn hanes Cymru yn ystod y bencampwriaeth tridiau o hyd, a gynhelir bob pedair blynedd. Fe gurodd Cymru Seland Newydd yn rownd yr wyth olaf a Samoa yn y rownd gynderfynol.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, "Mae llwyddiant Cymru yn Dubai wedi bod yn arbennig o dda i Rygbi 7 Bob Ochr y wlad ac mae gan S4C ymrwymiad i ddangos y gorau yn y gamp. Dyma gyfle unigryw i wylwyr fwynhau uchafbwyntiau'r daith o'r dechrau i'r diwedd - pan fo Cymru'n codi'r Cwpan Melrose."

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?