S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion yn ennill Côr Cymru 2009

05 Ebrill 2009

  Mae côr o Gastell Newydd Emlyn yn dathlu ar ôl ennill prif gystadleuaeth gorawl Cymru, Côr Cymru ar S4C am yr eildro.

Curodd Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion, o dan arweiniad Islwyn Evans, bedwar o gorau eraill yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C ar 5 Ebrill, i gipio’r brif wobr o £5,000 a’r teitl Côr Cymru 2009. Enillodd Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion gystadleuaeth gyntaf Côr Cymru yn 2003. Sioned James, arweinydd Côrdydd, a enillodd wobr yr Arweinydd Gorau.

Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Oddi ar ei sefydlu yn 2003, mae Côr Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn nghynnyrch cerddorol S4C. Mae’r digwyddiad dwyflynyddol hwn yn un o uchafbwyntiau calendr cerddorol Cymru.

“Mae hi wedi bod yn gystadleuaeth arbennig o dda eleni, gyda chorau o bob cwr o Gymru yn brwydro am y brif wobr. Gosodwyd safonau uchel iawn a bu’n dasg anodd dros ben i’r beirniaid. Llongyfarchiadau i Ysgol Gerdd Ceredigion ac i Sioned James.”

Y beirniaid yn Côr Cymru 2009 oedd Mark Wilkinson, Rheolwr Cyffredinol, Universal Classics and Jazz, Tecwyn Evans, arweinydd proffesiynol o Seland Newydd, a Tönu Kaijuste o Estonia, sydd hefyd yn arweinydd proffesiynol.

Dyma’r pedwerydd tro i S4C gynnal Côr Cymru. Yr enillwyr blaenorol oedd Côr Cywair yn 2007, Serendipity o Gaerdydd yn 2005 ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2003.

Gellir gweld y rownd derfynol ar-lein ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?