S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu uchafbwyntiau Taith y Llewod

27 Ebrill 2009

 Mae S4C wedi sicrhau’r hawl i ddarlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif ar deledu yn rhad ac am ddim o Daith y Llewod i Dde Affrica, sy’n dechrau ym mis Mai ac sy’n parhau am bump wythnos.

Bydd darllediadau S4C yn cynnwys uchafbwyntiau o’r tair gêm prawf yn ystod y daith, gyda’r gyntaf ar 20 Mehefin (Durban), yr ail ar 27 Mehefin (Pretoria) a’r olaf ar 4 Gorffennaf (Johannesburg). Bydd uchafbwyntiau’r saith gêm arall hefyd ar gael ar S4C.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Gyda charfan amlwg o Gymry ymhlith tîm chwarae, hyfforddi a rheoli’r Llewod, mae hyn yn dangos unwaith eto ein hymrwymiad i ddarparu darllediadau chwaraeon o’r safon uchaf, o ddiddordeb Cymreig a byd-eang.

“Gyda S4C hefyd yn darlledu gêm brawf Cymru yn erbyn yr UDA yn fyw, yn ogystal ag uchafbwyntiau Canada v Cymru, fe fydd hi’n haf arbennig o rygbi ar y Sianel.”

Meddai cyn-gapten Cymru a sylwebydd rygbi S4C, Gwyn Jones: “Dyma’r tro cyntaf ers y 1970au i gynifer o chwaraewyr o Gymru i ymuno â’r Llewod, felly bydd diddordeb enfawr yn y daith o blith cefnogwyr Cymru. Ni allwn fychanu maint yr her sy’n wynebu’r Llewod yn Ne Affrica. Fe fydd hi’n gyfres llawn tensiwn a drama a gobeithio cawn weld rygbi rhyngwladol o’r safon uchaf bosib.”

Yn y man bydd S4C yn gwahodd cwmnïau i dendro am y gwaith o gynhyrchu’r rhaglenni uchafbwyntiau o Daith y Llewod i Dde Affrica.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?