S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad ar gêm Scarlets V Gleision Cwpan LV=

05 Chwefror 2010

Roedd S4C wedi gobeithio darlledu'r gêm rhwng y Scarlets a'r Gleision yng Nghwpan yr LV= yn fyw cyn y gêm ryngwladol rhwng Lloegr a Chymru. Fe wnaeth S4C gynnal trafodaethau gyda'r rhanbarth ac Undeb Rygbi Lloegr am y posibilrwydd hwn ond gan fod nifer o docynnau eisoes wedi eu gwerthu, dymuniad y Scarlets oedd inni beidio darlledu'r gêm. Penderfyniad y Scarlets ac Undeb Rygbi Lloegr fel trefnwyr y Cwpan LV= oedd hwn ac roedd hyn y tu hwnt i reolaeth S4C.

Fodd bynnag, y newydd da yw y bydd digon o chwaraeon byw a rhaglenni o ddiddordeb i ddilynwyr chwaraeon ar S4C yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r sioe boblogaidd Jonathan yn dychwelyd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, rhaglen ddogfen rymus am y dyfarnwr Nigel Owens, ynghyd â holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw. Fe fydd dydd Sadwrn, 13 Chwefror yn uchafbwynt gydag S4C yn darlledu'r gêm rhwng Chelsea a Chaerdydd ym mhumed rownd y Cwpan FA, cyn mynd yn syth at y gêm rygbi fawr rhwng Cymru a'r Alban yn y Chwe Gwlad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?