S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwaraeon yr haf ar S4C

18 Mai 2010

   Mae darllediad byw ac egscliwsif o Rownd Derfynol Cynghrair Magners ymysg uchafbwyntiau haf o chwaraeon ar S4C, sydd hefyd yn cynnwys pêl-droed a rygbi rhyngwladol, criced ugain pelawd yn fyw, y gorau o’r byd golff a holl gyffro chwaraeon modur.

Tîm Y Clwb Rygbi fydd yn cyflwyno’r Rownd Derfynol rhwng Leinster a’r Gweilch o Faes yr RDS, Dulyn, ar ddydd Sadwrn, 29 Mai am 18:10.

Bydd uchafbwyntiau o daith haf Cymru i Seland Newydd – gan gynnwys y ddwy gêm brawf ar 19 Mehefin yn Carisbrook, Dunedin a 26 Mehefin yn Stadiwm Waikato, Hamilton – ac uchafbwyntiau gêm Iwerddon yn erbyn y crysau duon o New Plymouth ar 12 Mehefin hefyd ar y sianel.

Gareth Roberts a thîm o arbenigwyr profiadol S4C fydd yn cyflwyno brwydr Cymru yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica, yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, 5 Mehefin.

Bydd chwaraewyr y dyfodol i’w gweld ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd IRB yn yr Ariannin ym mis Mehefin, gyda darllediadau byw o gêm allweddol Cymru yn erbyn Seland Newydd yn gemau cynnar y gystadleuaeth.

Ymysg uchafbwyntiau rygbi eraill ar S4C fydd y gorau o Rownd Derfynol Cwpan Her Amlin rhwng y Gleision a Toulon, Toulouse a Biarritz yn Rownd Derfynol Cwpan Heineken o Stade de France ym Mharis, a darllediad byw o Ffeinal Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’n gyfnod pwysig i John Toshack, hyfforddwr tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, wrth iddo ddechrau paratoi ar gyfer ymgyrch Ewro 2012 a’r gemau rhagbrofol ym mis Medi. Bydd Toshack a’i dîm yn teithio i Groatia wrth iddyn nhw herio carfan Slaven Bilić mewn gêm gyfeillgar ddydd Sul, 23 Mai.

Bydd S4C yn darlledu’r gêm rhwng Croatia a Chymru yn fyw ac yn egscliwsif o Stadion Gradski Vrt yn Osijek. Bydd uchafbwyntiau hefyd i’w gweld ar raglen Sgorio nos Lun, 24 Mai.

Am y tro cyntaf, bydd S4C yn darlledu gemau ugain pelawd Clwb Criced Morgannwg yn y gystadleuaeth Friends Provident T20.

Bydd y gyntaf o bum gêm ugain pelawd o Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd yn cael ei dangos ddydd Gwener, 4 Mehefin rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw. Y gemau eraill i’w darlledu fydd Hampshire, Sussex, Essex a Gwlad yr Haf.

Angharad Mair fydd yn cyflwyno holl gyffro’r gamp gyda’r arbenigwyr criced, Robert Croft a Jeff Evans ymysg eraill, yn ymuno i ddadansoddi’r chwarae yn ystod tymor yr haf. Sylwebwyr y gwasanaeth newydd fydd Huw Llywelyn Davies a John Hardy, gydag Alun Wyn Bevan yn cyflwyno’r ffeithiau a ffigyrau diweddaraf o’r byd criced.

Ymysg y gohebwyr ar y maes yn ystod yr ymgyrch fydd darlledwraig chwaraeon brofiadol y BBC, Dot Davies, a’r actor adnabyddus a chefnogwr criced brwd, Steffan Rhodri.

Mae rasio harnes hefyd yn dychwelyd ym mis Gorffennaf gyda chyfres newydd o Rasus yng nghwmni Dai Jones, Ifan Jones Evans a Dot Davies.

Bydd y ceffylau cyntaf yn rasio yn y gyfres newydd o Rasus Ceredigion ar gaeau Tanycastell, Rhydyfelin ger Aberystwyth ar 4 Gorffennaf. Bydd S4C hefyd yn darlledu o Rasus Tregaron ar 27 a 28 Awst.

Ym mis Gorffennaf hefyd bydd Emyr Penlan, Lowri Morgan a chriw Ralio+ yn dychwelyd i gyflwyno’r diweddaraf o’r byd chwaraeon modur. Ymysg y cystadlaethau fydd i'w gweld bob wythnos fydd y World Rally Championship (WRC), Intercontinental Rally Challenge (IRC), British Rally Challenge (BRC), Rally Cross, Autograss a MotoCross.

Ymunwch â’r criw yng nghymalau olaf pencampwriaeth y byd wrth i’r tymor gyrraedd uchafbwynt yn Rali Cymru GB yn Nhachwedd. Darlledir uchafbwyntiau dyddiol gan gyflwynwyr Ralio+ o’r digwyddiad.

Mae cyfres golff S4C Golffio nôl ym mis Awst gyda’r gyfres yn paratoi am yr uchafbwynt, y Cwpan Ryder, sydd i’w gynnal yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 1 - 3 Hydref.

Mae’r gyfres yn dechrau gydag uchafbwyntiau dyddiol a darllediad byw o ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Golff i Ferched a noddir gan S4C o Glwb Golff Conwy rhwng 12 a 15 Awst.

Bydd y tîm yn cyflwyno uchafbwyntiau Cylchdaith Ewrop a PGA yr Unol Daleithiau a Chylchdaith Ewropeaidd y Merched yn Awst a Medi. Bydd hefyd darllediadau dyddiol o’r Cwpan Ryder.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae ein darllediadau chwaraeon cynhwysfawr dros yr haf yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarlledu ystod eang o chwaraeon yng Nghymru ar bob lefel. Rwy’n falch iawn o ychwanegu gemau criced Morgannwg i’r ddarpariaeth yn ogystal â gêm byw Cymru yng Nghroatia wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2012, sy’n dechrau ym mis Medi.

“Mae cyflwyno gemau ail-gyfle i’r Cynghrair Magners ac Uwch Gynghrair y Principality wedi ychwanegu dimensiwn newydd i ddiwedd y tymor rygbi swyddogol ac rydym yn hynod o falch i ddarlledu’r ddwy rownd derfynol ar ddiwedd y mis.

“Gydag S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau o brofion rygbi rhyngwladol Cymru yn erbyn Seland Newydd yn ogystal ag uchafbwyntiau’r Cwpan Heineken a’r Cwpan Her Amlin, bydd yn haf arbennig o rygbi – ac i chwaraeon yn gyffredinol – ar y Sianel.”

Tu hwnt i’r oriau darlledu cynhwysfawr chwaraeon gydol yr haf, bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael ar gyfer yr holl chwaraeon ar y we – s4c.co.uk/chwaraeon.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?