S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad Promax i ymgyrch Chwe Gwlad S4C

27 Hydref 2011

  Mae ymgyrch hyrwyddo S4C sy’n cynnwys rhai o faswyr enwoca’ rygbi Cymru wedi ei henwebu yng ngwobrau Promax UK 2011.

Mae Promax UK yn gwobrwyo’r gorau yn niwydiant marchnata a hyrwyddo teledu o fewn y Deyrnas Unedig.

Roedd yr ymgyrch yn hyrwyddo darllediadau S4C o bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2011 ac yn cynnwys rhai o’r maswyr sydd wedi gwisgo crys rhif 10 eiconig Cymru. Gan ddechrau yn y 1950au gyda Cliff Morgan, mae’r parêd o enwogion yn cynnwys Barry John, Phil Bennett, Gareth Davies, Jonathan Davies, Neil Jenkins a Stephen Jones

Mae’r ymgyrch yn gweld pob un o'r cyn-chwaraewyr rhyngwladol yn eu tro yn tynnu’r llwch o’u crysau cochion rhif 10 ac yn eu gwisgo gyda balchder hyd nes bydd chwaraewr tîm Cymru Dan 20, Steve Shingler, yn ymddangos ar ddiwedd yr hysbyseb yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

Bydd seremoni wobrwyo Promax UK yn cael ei chynnal yn Llundain nos Wener 11 Tachwedd.

Mae’r enwebiad yn ychwanegu at restr faith o anrhydeddau mae S4C wedi eu derbyn am ymgyrchoedd ar y sgrin. Ym mis Mai 2011 fe lwyddodd yr ymgyrch Chwe Gwlad 2011 i gyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Undeb Darlledu Ewrop.

Profodd tîm hyrwyddo ar sgrin S4C lwyddiant yng ngwobrau Promax UK 2010 gan gipio gwobr Aur am yr ymgyrch Haka oedd yn hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced a rygbi yn ystod haf 2010.

Fe enillodd yr ymgyrch honno hefyd wobr fawr o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium ym Monaco a’r Ymgyrch Farchnata Orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Roedd y ddwy ymgyrch o dan ofal Owain Morgan Jones, aelod o dîm hyrwyddo ar sgrin S4C.

Gwyliwch yr hysbyseb fan hyn

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?