S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a’r BBC yn cytuno ar lywodraethiant S4C i’r dyfodol

25 Hydref 2011

   

Mae Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a'r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyllideb, llywodraethiant ac atebolrwydd S4C tan 2017.

Bydd y trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheoli S4C tra'n gwarchod atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC dros arian o'r ffi drwydded fydd yn cael ei wario ar y gwasanaeth.

Mae'r cytundeb yn cloi'r trafodaethau rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC, a Llywodraeth y DU, wedi setliad ffi drwydded y BBC llynedd pan gytunwyd i sefydlu partneriaeth newydd a threfniadau cyllido i S4C.

Mae'n dilyn y cyhoeddiad ddoe gan y BBC ynglŷn â lefel y ffi drwydded fydd yn cael ei roi i S4C dros ddwy flynedd olaf Siarter y BBC.

Mae Cadeiryddion y ddau sefydliad wedi croesawu'r camau mlaen wnaethpwyd er mwyn cytuno ar y materion dan sylw.

Dywedodd yr Arglwydd Patten, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, "Mae hwn yn newyddion da i'r gynulleidfa Gymraeg. Mae'n cytundeb yn diogelu annibyniaeth olygyddol S4C tra'n sicrhau trosolwg effeithiol o wario arian ffi'r drwydded. Bydd hefyd yn creu perthynas weithredol agosach rhwng BBC Cymru a S4C, gan sicrhau bod arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn rhaglenni o ansawdd uchel o'r math mae'r gwylwyr yn disgwyl.

"Hoffwn dalu teyrnged i'n Hymddiriedolwr dros Gymru, Elan Closs Stephens, am ei chyfraniad pwysig i ganlyniad llwyddiannus y trafodaethau hyn."

Wrth groesawu'r cytundeb, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd S4C, bod y canlyniad yn gam pwysig ymlaen i'r Sianel ar ddiwedd trafodaethau hir a manwl rhwng y tri sefydliad.

Talodd Huw Jones deyrnged i bawb fu'n cymryd rhan yn y trafod a'r negydu arweiniodd i fyny at gytundeb hanesyddol ac arwyddocaol. Meddai, "Bydd y cytundeb hwn yn diogelu'r gwasanaethau iaith Gymraeg a ddarperir gan S4C am y dyfodol rhagweladwy. Bydd yn caniatáu i S4C gadw annibyniaeth olygyddol a rheoli, tra'n sicrhau atebolrwydd i Ymddiriedolaeth y BBC am yr incwm a dderbynnir o ffi'r drwydded, ac i'r DCMS am eu rhan nhw o gyllideb S4C. Mae'r fformiwla ariannu a gynigiwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC am y cyfnod 2015-2017, ac a dderbyniwyd gan Awdurdod S4C, er ei bod yn heriol, yn cynnig sefydlogrwydd i S4C ac i'r sector gynhyrchu mewn hinsawdd economaidd anodd, tra byddwn yn adnabod a gweithredu effeithlonrwydd ac yn adeiladu partneriaeth newydd gyda'r BBC.

"Hoffwn ddiolch i'r unigolion a'r sefydliadau hynny yn y Senedd, y Cynulliad Cenedlaethol ac mewn mannau eraill, sydd wedi cyfrannu mewn ffordd mor amlwg i'r drafodaeth gyhoeddus am ddyfodol S4C; i Arwel Ellis Owen a'r tîm bach, ond hollol ymroddedig yn S4C, sydd wedi ymdrechu mor galed; i arweinwyr a swyddogion y BBC sydd wedi gweithio ochr-yn-ochr â ni i gyrraedd canlyniad boddhaol i bawb, ac i Weinidogion a swyddogion y DCMS a'r Swyddfa Gymreig am eu gorolwg a fu mor werthfawr. Mae Awdurdod S4C yn hapus i gymeradwyo'r cytundeb hwn ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y broses ymgynghoriad cyhoeddus mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo i'w chynnal."

Elfennau allweddol y cytundeb llywodraethiant yw:

• Bydd S4C yn parhau i gael ei arolygu gan Awdurdod S4C dan gadeiryddiaeth Huw Jones.

• Bydd cylch gwaith statudol S4C i ddarparu rhaglenni Cymraeg o'r safon uchaf yn parhau dan arolygaeth Awdurdod S4C.

• Bydd Ymddiriedolwr dros Gymru'r BBC yn dod yn aelod o'r Awdurdod ac fe fydd y BBC ynghyd ag S4C a llywodraethau'r DU a Chymru yn rhan o'r broses o ddewis aelodau'r Awdurdod.

• Bydd S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn sefydlu cytundeb gweithredol ar gyfer S4C yn gosod hyd a lled y gwasanaeth fydd yn cael ei ddarparu gan y ffi drwydded.

• Y cytundeb gweithredol fydd y ddogfen allweddol er mwyn sicrhau atebolrwydd rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC a bydd yr Ymddiriedolaeth yn adrodd yn gyhoeddus yn flynyddol ar gyflawniad S4C yn erbyn y cytundeb.

• Bydd gan S4C fwrdd rheoli annibynnol yn cynnwys swyddogion S4C yn unig.

• Bydd S4C a BBC Cymru yn cydweithio i gyflawni mesurau effeithlonrwydd mewn gwaith gweinyddol a swyddogaethau cefnogol er mwyn i S4C a BBC Cymru allu gwario mwy o arian ar raglenni.

• Bydd S4C yn parhau i gomisiynu rhaglenni gan y sector annibynnol fel y mae ar hyn o bryd.

Mae'r cytundeb ar lywodraethiant ac atebolrwydd S4C i'r dyfodol wedi ei gyrraedd cyn trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn heddiw ar ddyfodol S4C. Mae'r sefyllfa yn ddibynnol ar basio'n llwyddiannus y Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Llywodraethiant S4C - Crynodeb o Gytundeb

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?