S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion disglair wrth i gwmni ynni haul noddi Tywydd S4C

26 Hydref 2011

Mae un o gwmnïau ynni haul mwyaf blaengar y Deyrnas Unedig, Pv Solar Solutions Ltd, am noddi gwasanaeth Tywydd S4C.

Mae nawdd Pv Solar Solutions Ltd o’r gwasanaeth Tywydd a’r ap tywydd arloesol yn dechrau ddydd Iau,

27 Hydref pan fydd gwylwyr yn gweld ffilm animeiddio fer liwgar cyn y bwletin ar y sgrin ac ar y gwasanaeth ar-lein. Fe fydd y nawdd yn para yn y lle cyntaf am gyfnod o 12 mis.

Mae gwasanaeth Tywydd S4C, a gynhyrchir gan gwmni Tinopolis mewn cydweithrediad â Weather Central, yn cael ei ystyried fel un o’r rhai mwyaf blaengar sydd ar gael ar deledu ac ar y we ym Mhrydain.

Yn ogystal â’r bwletinau Tywydd S4C, a gyflwynir gan Mari Grug, Chris Jones ac Erin Roberts o stiwdios y cwmni yn Llanelli, mae gwasanaeth Tywydd ar-lein ar gael ar s4c.co.uk/tywydd ac ap Tywydd ar yr iPhone.

Dyma’r unig wasanaeth tywydd yn y DU sy’n cynnig rhagolygon o fewn 1km i’ch lleoliad, gan felly gynnig y rhagolygon mwya’ lleol a manwl posibl.

Dim ond ers blwyddyn mae cwmni Pv Solar Solutions Ltd wedi ei sefydlu gan gynnig ynni haul cost-effeithlon ac atebion ar gyfer buddsoddi i berchenogion tai ac eiddo masnachol ledled DU.

Mae’r cwmni wedi ehangu’n gyflym ac nawr yn cyflogi oddeutu 90 o bobl mewn swyddfa a warws 16,000 troedfedd sgwâr ym Mae Caerdydd.

Meddai Martyn Ware, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata’r cwmni: "Rydym wrth ein bodd i gael noddi’r gwasanaeth Tywydd ar S4C. Ein nod yw rhoi gwybod i ddinasyddion Cymru am fuddiannau ynni haul gan helpu creu Cymru wyrddach.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: “Rydym yn hynod falch o’n gwasanaeth Tywydd blaengar sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan wylwyr S4C a defnyddwyr ar-lein ac iPhone. Rydym yn croesawu’r cwmni ynni haul hwn o fenter a gweledigaeth fel noddwr ein gwasanaeth arloesol.”

Cafodd y cytundeb nawdd ei negydu gan Val Harmer, Rheolwr Nawdd Masnachol ar gyfer Optimal Media Sales sy’n ymdrin â Gwerthiannau Cyfryngau S4C.

Meddai Val Harmer: "Rydym yn falch iawn o sefydlu partneriaeth gyda Pv Solar Ltd ar gyfer bwletinau Tywydd S4C. Mae nawdd fel arfer yn gweithio’n dda pan mae’r nawdd a’r brand yn gydnaws âi gilydd ac mae’r ddau yma’n gweddu ei gilydd yn berffaith.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?