S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yng Nghanol Cymuned Wrecsam

21 Tachwedd 2011

Bydd S4C yn codi pac i Wrecsam a’r cyffiniau ym mis Tachwedd wrth i gymal diweddaraf Calon Cenedl gynnig nifer o weithgareddau cymunedol i drigolion yr ardal.

Mae pentref Rhosllannerchrugog, sydd wedi’i leoli rhyw bum milltir o Wrecsam, wedi cael cryn dipyn o sylw ar y sianel yn ddiweddar gyda chriw ffilmio cwmni cynhyrchu Boomerang yn dilyn holl baratoadau a bwrlwm pantomeim cymunedol Seren Nadolig Rhos bob nos Fawrth am 20.25.

Bydd Calon Cenedl S4C yn glanio yno i ddathlu pen y daith i’r gymuned wrth iddynt lwyfannu’r panto o flaen cynulleidfa yn Theatr y Stiwt ar 4 Rhagfyr. Mae tocynnau’n dal ar werth i wylio’r cynhyrchiad drwy gysylltu â Swyddfa Docynnau’r Stiwt ar 01978 841300.

Rhwng 15 Tachwedd a 9 Rhagfyr, bydd cyfle i fwynhau digwyddiadau sy’n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C gan gynnwys Cwis Dafarn, Arddangosfeydd Coginio a Gosod Blodau a sioe hudol i blant meithrin, yn ogystal â lleisio barn am y sianel yn Noson Gwylwyr S4C.

Taith ysgolion gydag Ant ac Al, cyflwynwyr direidus Stwnsh Sadwrn, fydd yn dechrau’r ymgyrch Calon Cenedl ar 15 Tachwedd.

Mae’r ymgyrch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn parhau ar Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam ar nos Iau 17 Tachwedd pan fydd goleuadau Nadolig y dref yn cael eu cynnau am y tro cyntaf eleni. Ant ac Al ac aelodau o gast panto cymunedol Seren Nadolig Rhos fydd ymhlith y rheini i gynnig adloniant yn ystod y noson.

Bydd Sam Tân a Norman Preis ymhlith y gwesteion arbennig yn Ffair Nadolig Siôn Corn yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar 18 Tachwedd.

Ar 23 Tachwedd, bydd cwis dafarn yn cynnig y cyfle i ennill £200 ar gyfer elusen neu gynllun lleol ac i gyfarfod rhai aelodau o gast yr opera sebon Rownd a Rownd. Yr actor Dewi Rhys fydd yn cadw llygad barcud ar y cystadlu.

Y cogydd adnabyddus, Dudley Newbery, fydd yn dod â dŵr i’r dannedd gyda sesiwn goginio yng Ngholeg Iâl ar 24 Tachwedd gan roi’r cyfle i’r gynulleidfa holi, blasu a sgwrsio.

Rhosllannerchrugog fydd man cychwyn Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau eleni, gyda Rapsgaliwn, Jac y Jwc a rhai o hoff gymeriadau’r gwasanaeth meithrin yn gorfod datrys problem fawr cyn y Nadolig.

Bydd Sioned Rowlands, un o gyflwynwyr Byw yn yr Ardd, yn arddangos ag ateb cwestiynau ar osod blodau yng Nghapel y Groes, Bodhyfryd, ar 28 Tachwedd.

Y noson ganlynol, bydd cast a chorws Seren Nadolig Rhos yn ymuno â Siôn Corn mewn gorymdaith arbennig o Johnstown i Rosllannerchrugog. Byddant hefyd yn cynnig adloniant ar Stryd y Farchnad.

Bydd cyfle i bobl yr ardal ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones a Phrif Weithredwr y sianel, Arwel Ellis Owen mewn Noson Gwylwyr S4C yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr ar nos Fercher, 30 Tachwedd.

Cawn gamu nôl i’r gorffennol ar 8 Rhagfyr i weld sut mae Wrecsam a’r cylch wedi ymddangos ar y sgrin dros 30 o flynyddoedd gyda chlipiau archif S4C.

I gloi’r gweithgareddau yn Wrecsam, bydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn cyflwyno gwers farddoniaeth wahanol iawn i blant ysgolion lleol.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Cafwyd Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy yn yr ardal yn yr haf ac mae’n braf cael dod nôl mor fuan wedi hynny er mwyn dathlu’r Nadolig ac arlwy diweddaraf S4C yn Wrecsam a Rhos. Rydym yn estyn gwahoddiad agored i bawb fwynhau’r amryw o weithgareddau ac adloniant rhad ac am ddim ac i gwrdd â rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y Sianel. Bydd offer cyfieithu a system ddolen sain ar gael i ddysgwyr a’r rheini sy’n mwynhau gwylio’r sianel ond sydd ddim yn siarad Cymraeg.”

Mae ymgyrch Calon Cenedl 2011 eisoes wedi ymweld ag ardaloedd yng Ngheredigion, Llŷn ac Eifionydd, Sir Fôn a Blaenau Gwent gan godi arian er budd elusennau lleol a gweithgareddau cymunedol.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau yn Wrecsam a’r cyffiniau, ewch i safel Caban: s4c.co.uk/caban

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?