S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Gary Speed

28 Tachwedd 2011

Mewn rhaglen arbennig heno (28 Tachwedd) bydd tîm Sgorio yn talu teyrnged i Gary Speed, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, fu farw ddydd Sul 27 Tachwedd yn 42 oed.

Dylan Ebenezer sy’n cyflwyno’r rhaglen Gary Speed: Teyrnged am 21:30 heno gyda theyrngedau personol gan y cyn chwaraewyr rhyngwladol Dai Davies a Malcolm Allen a’i gyfaill a’i gyn gyd-chwaraewr John Hartson.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys teyrngedau gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru a rhai o wynebau cyfarwydd Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd rhaglen Wedi 7 heno am 19:00 hefyd yn cynnwys teyrnged i’r rheolwr.

Mae pawb yn S4C yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu Gary Speed.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?