S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn cyhoeddi Adroddiad Turner

29 Tachwedd 2011

Mae Awdurdod S4C heddiw (dydd Mawrth 29 Tachwedd) wedi cyhoeddi Adroddiad Richie Turner yn dilyn ei Adolygiad o Effeithlonrwydd ac Arloesedd y Sianel. Mae'r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu hymateb i'r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad.

Yn eu cyflwyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Awst 2010, cyhoeddodd S4C eu bwriad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o holl weithgareddau'r Sianel. Y rhan gyntaf o'r adolygiad oedd Adroddiad Syr Jon Shortridge ar lywodraethiant corfforaethol S4C a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011. Yn dilyn hynny gofynnwyd i Brif Weithredwr S4C i gynnal adolygiad cynhwysfawr o holl weithgareddau eraill y Sianel.

Bu nifer o weithgorau ac adroddiadau yn edrych ar broses gomisiynu S4C, ar y weledigaeth rhaglenni ar gyfer 2012 ymlaen, ar staffio ac ail-strwythuro, ar effeithlonrwydd ac arloesedd. Comisiynwyd Richie Turner o Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru i baratoi adroddiad gan y gweithgor a oedd yn gyfrifol am adolygu effeithlonrwydd ac arloesedd y Sianel.

Mae Awdurdod S4C yn derbyn yr heriadau osodwyd gan Adroddiad Turner ac mae Tîm Rheoli S4C a'r Awdurdod ei hun eisoes wedi cymryd camau i weithredu nifer o'i argymhellion.

Yn ystod yr adolygiad bu Richie Turner yn holi aelodau staff S4C a rhanddeiliaid y Sianel ac fe gyflwynwyd ei Adroddiad i'r Awdurdod ym mis Gorffennaf 2011.

Roedd Richie Turner yn feirniadol o'r diwylliant o fewn S4C ac o'r cyfathrebu rhwng y Sianel a'i rhanddeiliaid. Cynigiodd nifer o argymhellion i wella rheolaeth, diwylliant a chyfathrebu mewnol S4C a gwnaeth awgrymiadau sut i wella effeithlonrwydd ac i hybu arloesedd. Rhoddwyd llawer o'r mesurau effeithlonrwydd awgrymwyd gan Richie Turner i fodolaeth ar adeg paratoi ei adroddiad ac mae'r gwelliannau hyn wedi ei nodi.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Mae'r Adroddiad yma yn ffrwyth gwaith y mae S4C ei hun wedi ei gomisiynu er mwyn cynorthwyo swyddogion i adolygu dulliau gweithredu'r sefydliad yn drwyadl. Wrth ddod â pherson allanol i mewn, mae wedi caniatáu i staff a chyflenwyr allanol siarad yn blaen ac mae llawer o'r negeseuon sy'n cael eu cyfleu yn rhai anghyfforddus a heriol.

"Mae'n bwysig bod y Tîm Rheoli a'r Awdurdod yn eu clywed, yn eu dehongli'n gywir ac yn ymateb yn adeiladol iddyn nhw. Mae llawer o waith wedi ei wneud i'r cyfeiriad hwn eisoes, fel y mae ymateb yr Awdurdod yn ei nodi, ond mae yna fwy i'w wneud eto. Er bod yna gyhoeddiadau pwysig wedi eu gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n gosod seiliau cadarn i ddyfodol S4C, mae cyhoeddi'r Adroddiad yma heddiw yn fodd i'n hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r staff galluog sydd gennym, ac o frwdfrydedd a thalent y cynhyrchwyr annibynnol a'u timau hwy.

"Mae'r materion sy'n cael eu codi yn rhai y bydd yn angenrheidiol i ni ail-ymweld â nhw'n gyson dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried y toriadau ariannol sy'n cael eu gweithredu, er mwyn sicrhau fod y broses o gomisiynu rhaglenni a chyflenwi gwasanaeth yn digwydd yn y modd mwyaf effeithiol posib."

Meddai Richie Turner, "Dwi'n croesawu ymateb S4C a'r gwelliannau mae S4C wedi eu gwneud wrth weithredu'r newidiadau argymhellwyd yn fy adroddiad. Dylid cymeradwyo S4C am fod digon agored i gomisiynu adolygiad annibynnol o'i effeithlonrwydd a'i gallu arloesol.

"Mae gan y darlledwr nawr y sylfaen i greu sefydliad mwy agored a chreadigol gyda'r gallu i fanteisio ar syniadau - sefydliad fydd yn adlewyrchu'n llwyr bob agwedd o'r diwylliant a'r gymdeithas Gymreig."

Gellir gweld yr Adroddiad llawn ac ymateb S4C ar

http://s4c.co.uk/abouts4c/authority/downloads/adrodd_report.pdf

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?