S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Milfeddyg adnabyddus yn ennill cystadleuaeth trelar Ffermio

30 Tachwedd 2011

Ar ôl dilyn cyngor ei ferch mae milfeddyg adnabyddus wedi ennill trelar newydd gwych.

A bydd Dr Robert Ellis yn hapus i ganiatáu i’w ferch Jessica, sydd hefyd yn filfeddyg, i ddefnyddio'r trelar gan mai hi a'i perswadiodd i roi cynnig ar y gystadleuaeth ar Ffermio, cyfres boblogaidd S4C.

Y brif wobr yn y gystadleuaeth oedd trelar gwartheg 12' gwerth £4,956 wedi ei darparu gan gwmni Ifor Williams Trailers.

Cyflwynwyd y wobr i’r Dr Ellis, o Abergwesyn, ger Llanwrtyd, yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Aeth yr ail wobr i Aelwyn Evans o fferm Caegwyn, Harford, Llanwrda, sydd bellach yn berchennog ar flwch ceffylau newydd sbon Ifor Williams gwerth £4,656. Cyflwynwyd y drydedd wobr, trelar P6E Ifor Williams gwerth £804 i Haydn Young, tyddynwr o Lanefydd, ger Dinbych.

Mae’r Dr Ellis wedi bod mewn practis preifat yn Llanwrtyd am 37 o flynyddoedd, ond mae hefyd yn ffermio 470 hectar ar y Mynyddoedd Du. Ar ôl gosod y tir ers nifer o flynyddoedd mae bellach yn treulio mwy o amser yn ffermio ac mae cynlluniau ganddo i gynyddu ei braidd o ddefaid. Ei faes arbenigol fel milfeddyg yw ceffylau ac mae ganddo 30 o ferlod Shetland.

"Mae'r trelar yn mynd i fod yn ddefnyddiol dros ben," meddai. “Dwi ddim yn cystadlu yn aml iawn ac rwy'n credu mai’r peth mwyaf yr ydw i wedi ei ennill erioed yw potel o win. Ond rwy’n falch iawn bellach bod fy merch wedi fy mherswadio i gystadlu,” meddai’r Dr Ellis.

Dechreuodd cystadleuaeth Ffermio ym mis Medi a phob wythnos gofynnwyd i gystadleuwyr ateb cwestiwn, gyda llythrennau cyntaf yr atebion yn ffurfio gair cudd.

"Mae cystadleuaeth Ffermio yn werthfawr iawn i ni, gyda phobl o bell ac agos yn gwylio’r rhaglen, yn y gobaith o gael eu dwylo ar y trelars. Mae'r trelars yn rhan annatod o fywyd cefn gwlad, ac maen nhw i'w gweld ym mhobman. Enw da Ifor Williams ar gyfer gweithgynhyrchu o ansawdd uchel yw'r rheswm pam rydym yn gofyn am gefnogaeth y cwmni bob blwyddyn,” meddai Elin Rhys Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgop, y cwmni sy'n gyfrifol am y gyfres Ffermio.

Dywedodd Llion Roberts, o gwmni Ifor Williams Trailers, eu bod yn falch o fod yn gysylltiedig â Ffermio a bod enw da eu cynnyrch i’w weld yn glir yn yr ymateb i'r gystadleuaeth. "Mae'n dangos bod yna alw mawr am ein trelars," ychwanegodd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?