S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffermwr o Ben Llŷn yn ennill Fferm Ffactor 2011

30 Tachwedd 2011

 Ffermwr gwartheg godro o Ben Llyn, Malcolm Davies, sydd wedi ennill Fferm Ffactor 2011.

Mae’n mynd â’r teitl yn ôl i ogledd Cymru am y tro cyntaf - ynghyd â’r cerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver wrth gwrs!

Malcolm, 38, o Ddinas ger Pwllheli, a goronwyd yn Ffermwr Gorau Cymru mewn ffeinal gofiadwy heno (Mercher, 30 Tachwedd) ar S4C.

Fe gurodd Aled Roberts o Lanrhaeadr ym Mochnant a Sam Carey o Roshill, Sir Benfro mewn rownd derfynol a ddisgrifiwyd fel yr “agosa’ yn hanes y gystadleuaeth”.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi gan y cyflwynydd Daloni Metcalfe ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon ar ôl saith wythnos o gystadlu o’r safon uchaf.

Fe wnaeth y beirniad, y guru amaeth, Yr Athro Wynne Jones a’r cyn enillydd Fferm Ffactor, Aled Rees, ddewis y ffarmwr gwartheg godre o Ddnas ger Pwllheli.

Meddai Wynne Jones: "Y gystadleuaeth eleni oedd yr agosa’ ers i’r gyfres ddechrau yn 2009. Doedd fawr ddim yn gwahanu’r tri yn y diwedd, er y rhagorodd yn y tasgau olaf, tasg gwybodaeth ‘Y Gadair’ a’r dasg busnes.”

“Mae’n bencampwr haeddiannol dros ben, a oedd yn dangos yr hyder a’r gallu i ganolbwyntio wrth daclo’r tasgau, Roedd yn gyson iawn gydol y gyfres ac yn gallu cadw ei bwyll wrth berfformio. Mae’n un da am weithio mewn tîm a chwblhau tasg yn fanwl ac yn drwyadl.”

Mae Malcolm, sy’n briod â Carys ac yn dad i fachgen pedair oed, Iori, ar ben ei ddigon.

“Mae’n fraint o’r mwyaf i ennill Fferm Ffactor 2011 ac i ddŵad â’r teitl adra’ i Ogledd Cymru am y tro cyntaf. Mae

Pen Llyn yn ardal amaethyddol gre’ ac roeddwn i am ddangos ein bod cystal pob tamaid a ffermwyr y de!” meddai Malcolm, sydd mewn partneriaeth ar y fferm gyda’i ddau frawd a’i dad.

“Dwi’n gweithio hefo gwartheg godro yn unig, felly roedd gen i lawer i’w ddysgu wrth ddelio hefo defaid yn enwedig. Fe wnes i’n ddigon da mewn tasgau eraill i ennill y bleidlais, diolch i’r drefn.

“Dwi newydd gael fy mhen-blwydd yn 38 oed, felly roedd ennill y wobr fath a gwireddu breuddwyd. Fe ddaeth y 4.x4 Isuzu Rodeo Denver ar yr adeg iawn inni ar y fferm gan fod yr hen dryc wedi torri yn ddiweddar.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?