S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

12 enwebiad i raglenni S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2012

15 Chwefror 2012

 Mae tair o ddramâu S4C - y ffilm fawr Patagonia, y ddrama hir Burton: Y Gyfrinach? a’r gyfres Alys - wedi eu henwebu yng Ngwobrau Cyfryngau Celtaidd 2012, ynghyd â naw enwebiad arall i’r Sianel. Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal yn Derry, Gogledd Iwerddon ym mis Ebrill.

Bydd y ffilm Patagonia, gan y cyfarwyddwr Marc Evans, a’r ddrama Burton: Y Gyfrinach? (Green Bay) yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y categori Drama Hir.

Yn serennu yn Patagonia mae Matthew Rhys, Nia Roberts, Matthew Gravelle a Duffy, ac mae’r stori yn dilyn dwy daith gan ddwy fenyw, un yng Nghymru a’r llall ym Mhatagonia. Fe’i darlledwyd am y tro cyntaf ar S4C ar Ddydd Calan 2012.

Richard Harrington sy’n portreadu’r actor Richard Burton yn y ddrama Burton: Y Gyfrinach? sy’n taflu goleuni newydd ar berthynas yr actor byd enwog a’i frawd hyna’ Ifor (Dafydd Hywel). Roedd y ddrama yn un o uchafbwyntiau amserlen y Nadolig 2011 ar S4C.

Mae’r ddrama rymus Alys, gan yr awdures doreithiog Siwan Jones, wedi ei henwebu yn y categori Cyfres Ddrama. Mae’n dilyn stori y fam sengl Alys (Sara Lloyd Gregory) wrth iddi adael ei gorffennol cythryblus yn y ddinas a cheisio rhoi bywyd gwell i’w mab mewn tref dawel yng ngorllewin Cymru.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r gyfres Ras yn Erbyn Amser (P.O.P.1) wedi ei henwebu yn y categori Chwaraeon.

Mae’r gyfres hon yn dilyn y cyflwynydd Lowri Morgan wrth iddi ymgymryd â her y Ras 3366 Ultra yng Nghylch yr Arctig.

Fe enillodd y gyfres gyntaf a ddarlledwyd 2010, oedd yn dilyn Lowri yn cystadlu yn Marathon y Jyngl yn yr Amazon, brif wobr yr ŵyl yn 2011 – sef gwobr Ysbryd yr Ŵyl.

Mae criw cariad@iaith:love4language yn dathlu wedi i’w hymdrechion i ddysgu Cymraeg dderbyn enwebiad yn y categori Adloniant Ffeithiol.

Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Fflic, ac mae’n dilyn wyth o wynebau cyfarwydd - Melanie Walters, Colin Charvis, Helen Lederer, Josie d’Arby, Lembit Öpik, Matt Johnson, Rhys o GLC a Sophie Evans – wrth iddynt dreulio wythnos yn dysgu’r iaith.

Dau ffrind arall sy’n dathlu yw Rapsgaliwn, rapiwr gorau’r byd, a’i gyfaill Mistar Urdd wedi iddyn nhw dderbyn enwebiad yn y categori Ymgyrch Farchnata am y gân a’r fideo Hei Mistar Urdd ar ei newydd wedd.

Cynhyrchwyd y gân a’r fideo gan dîm Cyfathrebu S4C ar gyfer hyrwyddo’r rhaglenni o Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011.

Mae un o raglenni Stwnsh wedi derbyn enwebiad yn y categori Addysg a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Cynhyrchir Rhyfedd-OD gan Gwmni Da ac mae’n rhaglen llawn arbrofion, gwyddoniaeth a ffeithiau difyr.

Mae’r gyfres Jac Russell, a gynhyrchir gan Boomerang, hefyd wedi ei henwebu am wobr yn y categori Plant.

Mae dau enwebiad i S4C yn y categori Adloniant. Y gyntaf ar gyfer y gyfres Côr Cymru 2011, gan gwmni Rondo, a’r ail i’r rhaglen ddogfen ddychan Wil a Cêt, gan Cwmni Da.

Daeth enwebiad arall i Cwmni Da yn y categori Pobl Ifanc gyda’r gyfres gomedi Dim Byd, ac mae’r comedi cartŵn Y Teulu Tomos (Griffilms), sy’n dilyn helyntion y teulu a’u robot, wedi ei henwebu yn y categori Animeiddio.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C, Geraint Rowlands, “Llongyfarchiadau i’r holl raglenni sydd wedi ei henwebu yng Ngwobrau Cyfryngau Celtaidd 2012. Bu hi’n flwyddyn fawr ar gyfer drama ar S4C ac mae hynny wedi ei adlewyrchu yn y tri enwebiad i rai o brif ddramâu’r flwyddyn - Patagonia, Burton ac Alys.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?