S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pantyfedwen yw Emyn i Gymru 2012

12 Mawrth 2012

 Mae gwylwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C wedi dewis Pantyfedwen fel eu hoff emyn ar gyfer 2012.

Daeth yr emyn i’r brig mewn pleidlais a gynhaliwyd yn ystod mis Chwefror gan y gyfres deledu, ble roedd gofyn i wylwyr bleidleisio am eu hoff emyn o restr fer o ugain oedd wedi ei ddewis gan banel o arbenigwyr.

Datgelwyd y canlyniad mewn rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul 11 Mawrth.

Cafodd y rhaglen ei recordio ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 11 Mawrth, gydag Alwyn Humphreys yn arwain y canu.

“Fe gawsom ni gymanfa ardderchog, gyda cherddorfa a threfniadau arbennig. Roedd digon o hwyl i’w gael nes bod to'r Pafiliwn yn codi,” meddai Alwyn

Ond beth oedd y maestro a’r cyflwynydd yn ei feddwl o ddewis y gwylwyr?

“Mae Pantyfedwen yn emyn cymharol ddiweddar, ac mae’r geiriau a’r gerddoriaeth wedi cydio mewn ffordd sydd bron iawn yn unigryw i’r blynyddoedd diweddar. Dim ond Pantyfedwen a Bro Aber sydd wedi creu'r fath argraff yn y 50 mlynedd diwethaf.

“Mae cyfuniad o’r dôn a’r geiriau - ac yn enwedig ‘Mae’r Haleliwia yn fy enaid i’ – yn gwneud i bobl agor allan ac mae’n cynhyrfu pobl. Wedi’r cyfan, ‘da’ ni gyd yn chwilio am yr Haleliwia yn ein bywydau.”

Yn ôl y cwmni cynhyrchu Avanti, sy’n gyfrifol am y gyfres, roedd nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd yn uchel iawn.

Ond, o ystyried poblogrwydd y gyfres ymysg gwylwyr hŷn y Sianel, roedd yn syndod i’r tîm faint wnaeth ddewis bwrw eu pleidleisio ar y wefan.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Dafydd Parri, “Mae'n ymddangos bod yna silver surfers go iawn yma yng Nghymru o ystyried y nifer sydd wedi bod yn ymweld â gwefan Dechrau Canu Dechrau Canmol er mwyn bwrw eu pleidlais.”

Gwyliwch y rhaglen eto ar wasanaeth ar alw S4C – s4c.co.uk/clic

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?