S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad gan Awdurdod S4C: Heno

22 Mawrth 2012

Yng nghyfarfod misol Awdurdod S4C ddydd Iau, 22 Mawrth, cafwyd trafodaeth estynedig ar yr ymateb a dderbyniwyd i'r amserlen newydd a lansiwyd ar 1 Mawrth, ac yn arbennig i'r rhaglen nosweithiol newydd Heno.

Roedd aelodau'r Awdurdod yn rhannu'r pryderon a fynegwyd gan nifer fawr o wylwyr ynglŷn â'r rhaglen.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, "Mae gan yr Awdurdod gydymdeimlad â chynhyrchwyr a swyddogion wrth iddynt wynebu'r her o geisio ymestyn apêl y gwasanaeth tra'n gweithio gyda chyllideb sydd wedi ei thorri'n sylweddol. Ond mae gennym ddyletswydd sylfaenol i sicrhau bod barn ein gwylwyr - yn enwedig pan gaiff ei mynegi mor groyw a chyson ag yn y dyddiau diwethaf - yn cael ei chlywed ac yn cael dylanwad ar yr hyn a welir ar y sgrin. Rhaid gwarchod safon y gwasanaeth. Mae'r Prif Weithredwr wedi ymrwymo i roi'r gynulleidfa wrth galon y gwasanaeth ac rydym yn croesawu'r camau pendant y mae yn eu cymryd, mewn partneriaeth â chwmni Tinopolis, i sicrhau y bydd Heno yn rhaglen fydd yn cyfrannu'n llwyddiannus at amcanion S4C ac at fwynhad gwylwyr."

Mae'r Awdurdod yn disgwyl y gwelir newidiadau cadarnhaol i'r rhaglen yn y tymor byr ac fe gyflwynir adroddiad pellach ynglŷn ag elfennau eraill yr amserlen newydd yng nghyfarfod mis Ebrill.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?