S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi pedwar Comisiynydd Cynnwys

22 Mawrth 2012

Mae S4C yn falch o gyhoeddi penodiadau pedwar Comisiynydd Cynnwys newydd.

Fe fydd y pedwar yn gyfrifol am gomisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan ar gyfer y Sianel o dan arweiniad Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys y Sianel.

Mae Sioned Roberts, Llion Iwan, Gwawr Lloyd a Gaynor Davies wedi eu penodi ar gytundebau 3 blynedd yn y lle cyntaf.

Fe fydd y pedwar yn gyfrifol am agweddau gwahanol ar gomisiynu ar gyfer y gwasanaeth rhaglenni.

Yn ogystal ac yn dilyn newidiadau mewnol fe fydd Geraint Rowlands yn cymryd cyfrifoldeb am rai agweddau o gomisiynu a dyletswyddau rheoli is-adrannau o fewn y Gyfarwyddiaeth Cynnwys fel Pennaeth Darlledu.

Daw'r penodiadiau fel rhan o'r newid yn strwythur comisiynu S4C a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe fydd S4C yn symud o drefn o wneud penderfyniadau comisiynu fel tîm at drefn gomisiynu cynnwys gan gomisiynwyr unigol.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Rwy'n falch iawn o groesawu'r pedwar Comisiynydd Cynnwys i'r tîm comisiynu newydd. Rwy'n credu bod gan y tîm newydd y ddawn, y weledigaeth a'r profiad i greu amserlen amrywiol, uchelgeisiol a difyr a fydd yn apelio at y gynulleidfa ehangaf posibl.

"Mae'n gyfnod heriol a chyffrous pan fydd yn rhaid i wasanaethau S4C gyrraedd defnyddwyr ar wahanol lwyfannau digidol. Rwy'n credu y gall y tîm hwn, trwy gydweithio gyda'r sector greadigol yng Nghymru a thu hwnt, ateb yr her a chomisiynu cynnwys dychmygus a chreadigol o'r safon uchaf."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?