S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rheolwyr S4C yn gwirfoddoli rhoi'r gorau i hawliau dau gynllun buddiannau

27 Mawrth 2012

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi cadarnhau bod aelodau tîm rheoli'r sianel wedi gwirfoddoli i roi'r gorau i'w hawliau o dan ddau gynllun buddiannau fel rhan o'r ymdrechion i wneud arbedion ariannol mewnol.

O ganlyniad, bydd eu hawl i gael ceir cwmni'n dod i ben ym mis Medi eleni, a'u hawl i yswiriant iechyd preifat yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?