S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiadau S4C yng Ngwobrau Digidol Broadcast 2012

02 Ebrill 2012

   Mae rhaglen S4C am hanes sipsi a'i geffyl a gwasanaeth meithrin S4C wedi eu henwebu yng Ngwobrau Digidol Broadcast 2012.

Mae'r rhaglen Joe a Ruby (cynhyrchiad Chwarel) wedi'i henwebu yn y categori Cynnwys Newyddion neu Faterion Cyfoes Gorau. Bydd Cyw yn herio rhai o enwau mwyaf y byd teledu yn y categori Sianel Plant y Flwyddyn gan gynnwys CBeebies a Cartoon Network.

Cynhelir y gwobrau yn Llundain ym mis Mehefin.

Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu dros dro S4C, "Llongyfarchiadau mawr i bawb. Llwyddodd stori drist a gafaelgar Joe a Ruby gydio yn nychymyg y gynulleidfa a chynnig cipolwg ar gymuned trafaelwyr sipsi yn Wrecsam ar yr un pryd. Mae Cyw yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i ddyfodol yr iaith Gymraeg ac yn cyfoethogi bywydau ac addysg plant yng Nghymru a thu hwnt saith diwrnod yr wythnos."

Fe wnaeth stori'r gŵr a'i geffyl gwyn ddenu sylw'r cyfryngau ar ôl i'r ddau gael eu gweld yng ngorsaf drên Wrecsam, yn y feddygfa ac o flaen tafarn yn y dref. Yn sgil hynny, comisiynwyd rhaglen ddogfen arbennig oedd yn olrhain stori'r ddau, Joe Purcell, gŵr 71 oed, a'i geffyl, Ruby a'r gymuned trafaelwyr sipsi bu'r ddau yn perthyn iddi.

Nid dyma'r tro cyntaf i Cyw dderbyn cydnabyddiaeth Brydeinig ers lansio'r gwasanaeth yn 2008. Mae gwasanaeth Cyw wedi'i henwebu yng ngwobrau BAFTA Plant yng nghategori Sianel y Flwyddyn ar ddau achlysur ac mae rhaglenni Cyw wedi dod i'r brig yng ngwobrau RTS, Broadcast, BAFTA Cymru a'r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?