S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ail Strwythuro S4C

17 Ebrill 2012

 

Mae Ian Jones, Prif Weithredwr S4C wedi cyhoeddi newidiadau i Dîm Rheoli a strwythur adrannol y Sianel.

Yn y drefn newydd fe fydd gan y Prif Weithredwr dîm o bedwar Cyfarwyddwr, tri yn llai o'i gymharu â'r strwythur blaenorol.

Bydd natur a ffurf yr adrannau yn newid ac mae disgwyl y bydd toriadau pellach i niferoedd staff. Erbyn cwblhau'r newidiadau arfaethedig fe fydd gostyngiad sylweddol wedi bod yn lefelau staffio S4C ers 2010. Ddiwedd y llynedd bu gostyngiad o 165 i 133 o ganlyniad i gynllun diswyddo gwirfoddol, ac mae disgwyl y bydd gwir ostyngiad 0 10 swydd arall o ganlyniad i'r ail strwythuro arfaethedig.

Fel rhan o'r newid bydd nifer o swyddi yn cael eu hail-ddiffinio a bydd rhai swyddi newydd yn cael eu hysbysebu maes o law. Bydd cyfnod o ymgynghori gydag unigolion a'r undeb perthnasol cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym.

Gyda'r newidiadau fe fydd swyddogaethau Cyfarwyddwr Materion Busnes a Chyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu yn dod i ben, a bydd swydd Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Tîm Rheoli yn cael ei dileu.

Y Tîm Rheoli newydd fydd:

Ian Jones, Prif Weithredwr

Kathryn Morris, Cyfarwyddwr Cyllid

Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys

Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau

Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol

Bydd Phil Williams Ysgrifennydd Awdurdod S4C yn parhau i fynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli S4C fel arsyllwr.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn effeithio'n fwyaf ar strwythur yr Adran Gynnwys fydd o hyn ymlaen yn ymgorffori rheoli cynnwys, cyfryngau digidol, cyflwyno a hyrwyddo ar sgrin, cynllunio ac ymchwil yn ogystal â chomisiynu. Bydd yr Adran Gyfathrebu yn cynnwys holl elfennau cyfathrebu ar draws gwasanaethau S4C, gan gynnwys cyfathrebu Corfforaethol a gofal am Bartneriaethau. Bydd materion busnes a masnachol yn dod yn rhan o'r Adran Gorfforaethol a Masnachol.

Prif Swyddog Technegol yn atebol yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr fydd yn gyfrifol am Ddarlledu a Dosbarthu a Thechnoleg Gwybodaeth.

Dywedodd Ian Jones:

"Mae'r ail strwythuro yn ddechrau ar broses i baratoi S4C ar gyfer dyfodol cyfnewidiol a llawn her. Mae'n broses fydd yn esblygu ac addasu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ond y nod yw gosod y gwyliwr yng nghanol popeth sy'n bwysig i S4C drwy gynnig cynnwys o'r ansawdd gorau posib fydd ar gael unrhyw bryd ar bob llwyfan posib. Cynnwys, ymchwil a marchnata a'n perthynas gyda'n gwylwyr a phartneriaid eraill fydd y sail i'n cynlluniau datblygu i'r dyfodol. Dwi'n siŵr y bydd y strwythur newydd yn creu hinsawdd gyffrous fydd yn hybu creadigrwydd a beiddgarwch tra ar yr un pryd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd a chynllunio hir dymor."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?