S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dathlu agoriad Llwybr Arfordir Cymru

03 Mai 2012

I gyd-fynd ag agoriad swyddogol Llwybr Arfordir newydd Cymru ar 5 Mai, bydd S4C yn dathlu'r achlysur gyda rhifyn arbennig o'r gyfres Bro: Llwybr yr Arfordir.

Yn y rhaglen nos Lun, 7 Mai am 8.25pm, bydd Shân Cothi, Iolo Williams a Lowri Morgan yn ymuno â'r dathliadau mewn amryw o leoliadau ar hyd y llwybr.

I ddathlu'r agoriad swyddogol, ar ddydd Sadwrn 5 Mai, mae nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Cyngor Cefn Gwlad.

Bydd camerâu Bro yn cofnodi'r dathlu gydag Iolo Williams yng Nghastell y Fflint, Shân Cothi ar Brom Aberystwyth, a Lowri Morgan yn Sgwâr Roald Dahl ym Mae Caerdydd.

Yn ystod y rhaglen cawn ymuno â’r cyflwynwyr yn y dathlu yn ogystal â dilyn y teithiau cerdded sydd wedi’u trefnu ar y diwrnod gan Gymdeithas y Cerddwyr.

"Bydd agoriad Llwybr Arfordir Cymru yn achlysur arbennig, hanesyddol,” meddai Lowri Morgan, sy’n dod o ardal Gŵyr yn wreiddiol.

“Bob tro dwi 'di bod yn rhedeg dramor, naill ai yn Yr Arctig neu yn y jwngl, mae rhywun wedi dweud bod yr arfordir yn faes chwarae i’w drigolion, gan fod cymaint i’w wneud yno.

“Mae’n gyfle da i roi Cymru ar y map, a dangos beth sydd gennym ni i’w gynnig."

Hefyd ar y rhaglen, byddwn yn edrych ar wahanol agweddau o’r llwybr - o’r syniad gwreiddiol gan Weinidog yr Amgylchedd ar y pryd, Jane Davidson; i’r broses o greu a chynnal y llwybr.

Hefyd bydd rhai o bobl amlwg Cymru yn esbonio pam maen nhw’n dewis byw ger y llwybr.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?