S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y carped coch yn barod ar gyfer sêr cariad@iaith 2012

04 Mai 2012

  Ar ddiwedd mis Mai bydd y gyfres boblogaidd cariad@iaith:love4language yn ôl ar S4C gydag wyth seren ddisglair yn ysu i ymgymryd â’r her - sef dysgu cymaint o Gymraeg ac sy’n bosib mewn un wythnos.

Ond, chewch chi ddim gwybod pwy yw’r sêr tan brynhawn Sul 13 Mai pan fydd rhifyn arbennig o Hwb (5.00pm S4C) yn datgelu’r cyfan.

Yn y rhaglen bydd Nia Parry a Matt Johnson, cyflwynwyr Hwb, yn cyflwyno rhai o'r seren yn ei dro ac yn rhoi’r cyfle cyntaf i ni ddod i adnabod y grŵp.

“Mae hi’n mynd i fod yn wythnos liwgar. Maen nhw’n griw bywiog a dwi’n credu ein bod ni’n mynd i gael gwaith cadw trefn arnyn nhw!” meddai Nia Parry, “Maen nhw mor frwdfrydig, ond hefyd yn gwbl ddidwyll yn eu cymhelliad ac maen nhw’n amlwg eisiau dysgu Cymraeg. Mae hynny’n ddechrau da!”

Bydd cariad@iaith:love4language, sy'n cael ei chynhyrchu gan gwmni Fflic, yn dechrau ar 23 a 24 Mai gyda dwy raglen rhagflas i aros pryd cyn i’r rhaglenni byw ddechrau ar y dydd Sadwrn, 26 Mai.

Yna, rhwng 26 a 31 Mai, ymunwch â Nia Parry a Gareth Roberts bob nos yn fyw o wersyll Fforest ger Cilgerran.

Pob dydd bydd y criw yn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn. Yna fe fyddant yn profi eu sgiliau newydd mewn cyfres o dasgau ieithyddol.

Bydd y rhaglenni nosweithiol yn gyfle i weld – heb guddio dim - popeth sydd wedi digwydd yn ystod y dydd. Pwy yw seren y dosbarth? Ydi dryswch y treigladau yn ormod i rai o’n sêr?

Bydd hefyd gyfweliadau arbennig a thasgau ychwanegol i brofi’r wyth ymhellach yn fyw gerbron y genedl. A dim ots pa mor enwog ydyn nhw, does dim dianc rhag y gwaith caled!

“Maen nhw ar lefelau gwahanol o ran sgiliau Cymraeg. Mae rhai yn gwybod eithaf lot, ond eraill yn dechrau gyda bron dim byd. Mae hynny yn mynd i fod yn her. O’r cyfnod byr maen nhw wedi treulio gyda'i gilydd, maen nhw i weld yn dod ymlaen yn dda â'i gilydd, ond gawn ni weld sut bydd pethau ar ôl y wers gyntaf!”

Bydd Matt Johnson, un o raddedigion cariad@iaith 2011, yno hefyd i ffilmio cefn llwyfan ar gyfer rhaglen arbennig o Hwb.

Mae gan Matt ambell gyngor i’r sêr cyn iddyn nhw fentro i ffau’r llewod, sef: “Byddwch yn barod i ganu – ddydd a nos” a “cofiwch wrando o hyd” neu mae’n bosib y byddan nhw’n difaru cytuno i gymryd rhan!

Byddwch yn rhan o’r cyfan drwy ddilyn @s4cariad ar Twitter a ‘hoffi’r’ dudalen Facebook. Hefyd, cofiwch am y wefan s4c.co.uk/s4cariad

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?