S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Promo S4C yn ennill gwobr Undeb Darlledu Ewrop

08 Mai 2012

  Mae ymgyrch ar sgrin S4C o ddarllediadau’r Sianel o bencampwriaeth gofiadwy Cwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd wedi ennill yng Ngwobrau Undeb Darlledu Ewrop.

Cipiodd S4C yr wobr arian yn y categori Chwaraeon yn y seremoni, a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd Eurovision TV yn Copenhagen, Denmarc, yn ddiweddar.

Roedd y promo yn cyfleu’r syniad bod cewri Cymru yn herio gweddill y byd gan ddefnyddio dyluniadau Maori wedi’u cerfio ar fygydau pren traddodiadol.

Roedd y cerfiadau ar y mygydau Maori yn cynrychioli gwrthwynebwyr Cymru, gyda’r capten Sam Warburton, Alun Wyn Jones, Mike Phillips a George North ymhlith y chwaraewyr i ymddangos yn y promo.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, “Cafwyd ymateb arbennig i’r ymgyrch yn ystod Pencampwriaeth gyffrous Cwpan Rygbi’r Byd ac mae’r gydnabyddiaeth ryngwladol yn goron ar holl waith ein tîm talentog.

"Mae Undeb Darlledu Ewrop yn dathlu gwasanaethau creadigol y diwydiant teledu ac mae’n anrhydedd cael ein cydnabod ochr-yn-ochr a thalentau gorau Ewrop.”

Owain Morgan-Jones, aelod o dîm hyrwyddo ar sgrin S4C, oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r ymgyrch. Dyma’r bluen ddiweddaraf yn ei het ar ôl iddo lwyddo yng ngwobrau hyrwyddo rhyngwladol fel Sportel, Promax a’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd gydag amryw o ymgyrchoedd chwaraeon yn y gorffennol.

Roughcollie, y cwmni dylunio ac ôl-gynhyrchu, wnaeth gyd-weithio gydag adran hyrwyddo ar sgrin S4C i greu’r ymgyrch.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?