S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch dimau rhyngwladol Cymru ar S4C

09 Mai 2012

Bydd modd dilyn timau cenedlaethol Cymru ar S4C yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i’r Sianel sicrhau’r hawliau i ddarlledu gêm bêl-droed gyfeillgar Cymru v Mecsico a’r tair gêm brawf ar daith rygbi Cymru i Awstralia.

Tîm Sgorio fydd yn cyflwyno’r gêm rhwng Cymru a Mecsico yn fyw ac yn esgliwsif o Stadiwm MetLife yn Efrog Newydd ar nos Sul 27 Mai. Bydd trac sain Saesneg hefyd ar gael ar y gwasnaeth botwm coch i wylwyr di-gymraeg ar gyfer gêm gyntaf yr hyfforddwr newydd, Chris Coleman, wrth y llyw.

Mae S4C hefyd wedi sicrhau’r hawliau egscliwsif i ddarlledu gemau ar daith rygbi Cymru i Awstralia ym mis Mehefin. Bydd modd gwylio’r tair gêm brawf yn llawn ar yr un diwrnod â’r chwarae.

Bydd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia yn cael ei chwarae yn Stadiwm Suncorp, Brisbane ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin. Wythnos yn ddiweddarach (Sadwrn 16 Mehefin), bydd y garfan yn teithio i Melbourne i herio’r Wallabies yn yr ail brawf cyn cwblhau’r daith yn Sydney ar ddydd Sadwrn 23 Mehefin.

Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu S4C, “Mae ein darllediadau chwaraeon cynhwysfawr dros yr haf yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarlledu chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru ac i gefnogi ein timau rhyngwladol wrth iddyn nhw fynd ar daith.

“Y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico yw un o baratoadau diweddaraf Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ac rydym yn falch o gyhoeddi mai S4C yw’r unig ddarlledwr yn y Deyrnas Unedig fydd yn darlledu’n fyw o’r gêm.

“Bydd llygaid y byd rygbi ar garfan Cymru ar ôl eu llwyddiant nhw ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ac mae’n gyfle arbennig iddyn nhw, dan arweiniaeth Rob Howley, i herio Awstralia mewn tri phrawf traddodiadol a chipio buddugoliaeth yn erbyn un o fawrion hemisffer y de.

“Gydag S4C hefyd yn darlledu rownd derfynol Cynghrair Rabo Direct Pro12, uchafbwyntiau rownd terfynol Cwpan Heineken, rasio harnes gyda thîm Rasus a gemau criced Morgannwg yn fyw, bydd yn haf arbennig o chwaraeon ar y Sianel.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?