S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sêr cariad@iaith 2012 wedi eu datgelu

13 Mai 2012

   Mae enwogion cyfres cariad@iaith ar S4C wedi eu cyhoeddi ac yn eu plith mae'r seren rygbi Gareth Thomas, y tenor Wynne Evans a'r cyflwynydd newyddion Lucy Owen.

Yn ymuno â nhw mae'r actor Robert Pugh, cyn gystadleuydd ar yr X-Factor Lucie Jones, cyflwynydd CBeebies Alex Winters, yr actores Di Botcher a chyflwynydd Scrum V Lisa Rogers.

Bydd cyfle i ddod i adnabod yr wyth seren yn well mewn dwy raglen ragflas ar 23 a 24 Mai am 8.25pm. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y criw ar y wefan - s4c.co.uk/s4cariad

Yna, rhwng 26 a 31 Mai, ymunwch â Nia Parry a Gareth Roberts bob nos yn fyw o wersyll fforest ger Cilgerran.

Bob dydd bydd y criw yn mynychu gwersi Cymraeg dwys gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn. Yna fe fyddant yn profi eu sgiliau newydd mewn cyfres o dasgau ieithyddol.

Yn y gyfres y llynedd fe welon ni Josie d'Arby yn bargeinio am oen ym marchnad Aberteifi, Matt Johnson yn dod i'r brig mewn ras cwryglau ar yr Afon Teifi.

Roedd y ddau yn rhan o'r gyfres gyntaf a ddarlledwyd ym mis Gorffennaf 2011 gyda Colin Charvis, Melanie Walters, Lembit Öpik, Helen Lederer, Rhys o GLC a Sophie Evans.

Mae Matt bellach yn cyflwyno'r gyfres Hwb i ddysgwyr ar S4C. Fe ddatgelwyd enwau'r enwogion ar y rhaglen ar brynhawn Sul 13 Mai, ac mae Matt yn cyfaddef mai ef yw un o ffans mwyaf cariad@iaith.

"Buaswn i wrth fy modd yn cymryd rhan eto! Roedd cariad@iaith yn brofiad anhygoel. Roedd e'n llawer mwy na jest rhaglen deledu, a doedd e ddim yn one off. Fe roddodd e'r hyder i mi barhau gyda fy ngwersi Cymraeg," meddai Matt. "Mae gen i deimlad fod y gyfres yma yn mynd i fod yn anhygoel."

Byddwch yn rhan o’r cyfan drwy ddilyn @s4cariad ar Twitter a ‘hoffi’r’ dudalen Facebook. Hefyd, cofiwch am y wefan s4c.co.uk/s4cariad

Diwedd 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?