S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Taith Tîm Rygbi Cymru i Awstralia ar S4C

21 Mai 2012

Sunset + Vine Cymru a Sports Media Services fydd yn cyd-gynhyrchu darpariaeth S4C o daith tîm Rygbi Cymru i Awstralia ym mis Mehefin.

Bydd prawf cyntaf Cymru yn erbyn Awstralia yn cael ei chwarae yn Stadiwm Suncorp, Brisbane ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin. Wythnos yn ddiweddarach (Sadwrn 16 Mehefin), bydd y garfan yn teithio i Melbourne i herio’r Wallabies yn yr ail brawf cyn cwblhau’r daith yn Sydney ar ddydd Sadwrn 23 Mehefin.

Fe fydd S4C yn darlledu'r tair gêm brawf yn eu cyfanrwydd ar ôl 9.00pm ar ddiwrnod y gemau.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?