S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu uchelfannau Ras yr Wyddfa

30 Mai 2012

 Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau un o gyfarfodydd mawr y calendr rasio mynydd – Ras Ryngwladol yr Wyddfa – mewn rhaglen awr am 9 o’r gloch nos Sul, 22 Gorffennaf. Darlledir y rhaglen, Ras yr Wyddfa 2012, drannoeth y ras ei hun a dim ond wythnos cyn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Mae 600 o redwyr yn paratoi i daclo’r Ras Ryngwladol Yr Wyddfa 2012 - 10 milltir galed, o Gae’r Ddol ar lannau Llyn Padarn i begwn Yr Wyddfa i fyny fri 1085 medr (3560tr) ac yna lawr i’r troed eto.

Erbyn hyn mae’r ras yn rhan o’r Skyrunner World Series sydd wedi rhoi statws newydd i’r ras ac yn denu mwy o redwyr o safon ryngwladol i gystadlu.

Meddai Stephen Edwards, trefnydd y ras, “Ni wedi treio bob amser i gael y gorau yma i gystadlu ond mae bod yn rhan o’r Skyrunner World Series wedi rhoi hwb bwysig i’r ras. Rydym yn hynod falch hefyd bod y ras yn mynd i fod unwaith eto ar y teledu yn enwedig gan fod Ras yr Wyddfa yn eiconig i Gymru a hefyd o gofio ein bod wedi cael ras mor gyffrous y llynedd. Mae’r cydweithrediad ardderchog i ni’n cael gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a Rheilffordd Eryri yn hwyluso pethau i’r dyrfa ac i’r cystadleuwyr.”

Mae’n debyg y bydd enillwyr llynedd yn cystadlu eto eleni – Andi Jones, enillydd ras y bechgyn am y 5ed tro, a Pippa Jackson, enillydd ras y merched.

Yn cystadlu yn eu herbyn eleni bydd rhedwyr o Ffrainc, Canada, yr Eidal, Rwsia a Sweden, ymhlith gwledydd eraill. Yn ras y merched bydd dwy gystadleuydd newydd – Emile Forsberg o Sweden a Zhanna Vokueva o Rwsia – yn cymryd rhan ac, yn ôl Stephen Edwards, yn debygol o dorri record neu ddwy.

Bydd Gareth Roberts yn cyflwyno’r rhaglen ar S4C a Nic Parri yn sylwebu ac yn dilyn hynt a helynt y rhedwyr yn ystod y ras – y 37ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa.

Mae gan bob rhedwr stori a bydd camerâu’r cynhyrchwyr Cwmni Da yn dilyn rhai o’r straeon ac yn cynnwys portreadau o nifer o’r rhedwyr.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?