S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Alfie yw enillydd cariad@iaith: love4language

31 Mai 2012

  Cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gareth ‘Alfie’ Thomas, yw enillydd cariad@iaith:love4language 2012 wedi wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg yng ngwersyll fforest ger Cilgerran.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi yn ystod rhaglen ola'r gyfres a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Iau 31 Mai.

Yr actores Di Botcher cipiodd yr ail safle.

Roedd Alfie wedi ei ddewis gan y gwylwyr drwy bleidlais ar Facebook, ac roedd pleidlais gan y dysgwyr enwog wedi ei ddyfarnu’n gyfartal rhwng Alfie a’r actores Di Botcher.

Y sêr eraill oedd yn cymryd rhan yn y gyfres oedd y tenor Wynne Evans, y gantores Lucie Jones, seren y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones Robert Pugh a'r cyflwynwyr teledu Lisa Rogers, Alex Winters a Lucy Owen.

Yn ystod yr wythnos mae’r wyth seren adnabyddus wedi bod yn mynychu gwersi iaith yn ogystal ag ymgymryd â thasgau yn cynnwys canŵio, arlunio a gêm o Bolo Dŵr mewn cwrwgl.

Mewn rhaglen fyw bob nos, bu Gareth Roberts a Nia Parry yn cyflwyno uchafbwyntiau gwersi a thasgau'r diwrnod.

Meddai Gareth Thomas, “Uchafbwynt yr wythnos ifi oedd gweld Wynne a Di Botch yn mynd o allu siarad rhywfaint o Gymraeg i fynd ati i gynnal sgwrs hir yn rhugl. Maen nhw nawr yn swnio fel bod nhw wedi siarad Cymraeg ers blynyddoedd ac mae hynny’n rhoi’r hyder a’r cymhelliant ifi i ddyfalbarhau. Does dim rheswm pam na allai fod yn yr un sefyllfa â nhw yn y dyfodol ac ysbrydoli rhywun arall fel maen nhw wedi fy ysbrydoli i. Mae pob un ohonom ni yn enillwyr ar ddiwedd y dydd!”

Roedd enillydd cyfres ddiwethaf cariad@iaith:love4language, yr actores Melanie Walters, yn y ffeinal i gyflwyno’r wobr i Alfie ac i hel atgofion am ei hamser hi ar y gyfres.

Y tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn sydd wedi bod yn dysgu’r sêr yn ystod yr wythnos.

Meddai Nia, “Mae wedi bod yn wythnos anhygoel ac mae’r wyth ohonyn nhw wedi ennill yn fy marn i. Mae’r sêr wedi dangos yr hyn mae pobl yn gallu cyflawni mewn wythnos o ddysgu Cymraeg yn defnyddio dull “dadawgrymeg” (desuggestopedia) ac wrth edrych ar yr holl adborth ac ymateb i’r gyfres eleni, maen nhw’n sicr yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ym mhob man. Daliwch ati!”

Bydd modd gwylio cyffro’r wythnos unwaith eto mewn rhaglen uchafbwyntiau arbennig ar nos Sadwrn 2 Mehefin am 10.10pm. Mae modd hefyd gwylio’r gwersi cyfan ar y wefan s4c.co.uk/s4cariad.

Am gipolwg tu ôl i’r llenni ar cariad@iaith:love4language, ymunwch â Matt Johnson ar Hwb am 5.00pm prynhawn Sul, 3 Mehefin.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?