S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobrau digidol i arddangos talentau’r dyfodol

11 Mehefin 2012

Mae cynhyrchwyr ffilm ifanc yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio mewn cystadleuaeth sy’n chwilio am gyfarwyddwyr ffilm y dyfodol.

Mae gwobrau media4schools, a gafodd ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Eryri ar 8 Mehefin, yn dathlu talentau digidol unigolion, ysgolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Bydd ffilmiau’r sawl sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos mewn seremoni wobrwyo yn Cineworld Caerdydd ar ddydd Mawrth 13 Tachwedd, o flaen cynulleidfa eang sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm.

Mae’r gwobrau, a noddir gan Sony UK Technology Centre, bellach yn cynnwys categori iaith Gymraeg. Ymysg y partneriaid eraill mae S4C, Real Radio, Cineworld a Cake Communications.

Gall Ysgolion Cynradd ac Uwchradd gystadlu gyda ffilmiau sydd wedi’u creu gan unigolion neu grwpiau o fyfyrwyr - naill ai yn yr ysgol neu yn eu hamser eu hunain. Mae grwpiau cymunedol hefyd yn cael eu hannog i gystadlu, a hynny yn y categori Ffilm Gymunedol.

Ymysg y categorïau mae: Ffilm Chwaraeon Orau; Ffilm Hamdden Orau; Cyflwynwr Gorau; Ffilm Animeiddiedig Orau; Ffilm Dewis Gyrfa Orau; Ffilm Orau am eich Rhanbarth; Gwaith Camera Gorau; Golygu Gorau; Ffilm Orau; Ffilm Gymunedol Orau, a’r categori newydd - Ffilm Gymraeg Orau.

Mae media4schools yn fenter sy’n defnyddio cyfuniad o ddysgu galwedigaethol a sgiliau menter a chreu ffilm i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd led led Cymru. Mae hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc greu ffilmiau am faterion sy’n bwysig iddynt.

Mae pobl ifanc yn elwa drwy dderbyn sgiliau ymarferol yn y sector dechnoleg fydd o ddefnydd iddynt ym maes gwaith yn y dyfodol. Mae cyfleoedd partneriaeth yn dal i fod ar gael i fusnesau sy’n awyddus i gefnogi’r gwobrau.

Meddai Byron Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr media4creative, sy’n cynnal y gwobrau media4schools:

“Gyda rôl y cyfryngau digidol yn dod yn fwy amlwg yng nghymdeithas heddiw, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygiad personol a datblygiad eu gyrfa.

“Trwy gymryd rhan yn y gwobrau bydd myfyrwyr yn gallu dangos eu sgiliau digidol a fydd, heb os, yn eu helpu yn eu gwaith yn y dyfodol. Mae poblogrwydd y gwobrau yn parhau i dyfu, gyda safon y ceisiadau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at dderbyn ceisiadau Cymraeg am y tro cyntaf erioed diolch i bartneriaeth gydag S4C. Yn ogystal â gweithredu fel llwyfan ar gyfer gwneuthurwyr ffilm y dyfodol, bydd seremoni wobrwyo eleni yn brofiad arbennig i bawb sy’n ymwneud ag ef.”

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Phartneriaethau S4C: “Mae gan S4C ymrwymiad cryf i hyfforddiant yn y cyfryngau ac mewn partneriaeth â media4creative. Mae menter media4schools yn ymestyn ein cyfranogiad i sicrhau bod pobl ifanc yn medru manteisio ar sgiliau a fydd o ddefnydd iddynt yn y dyfodol. Rydym yn falch iawn bod ein rhan ni yn y fenter wedi galluogi’r trefnwyr i gyflwyno categori ffilm fer yn yr iaith Gymraeg yng ngwobrau media4schools.”

Ewch i wefan media4schools am rhagor o wybodaeth

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?