S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darllediad cyntaf Trioleg Mandela yn Ewrop yn cael ei we-ddarlledu’n fyw ac yn fyd-eang ar S4C

14 Mehefin 2012

Bydd S4C yn darlledu a gwe-ddarlledu perfformiad cyntaf Ewrop o gynhyrchiad Cwmni Opera Cape Town o’r Mandela Trilogy wedi ei seilio ar fywyd y gwladweinydd Nelson Mandela. Bydd y gwe-ddarllediad ar gael yn fyw ac yn fyd-eang.

Llwyfannir première Ewrop yr opera yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Fercher a nos Iau 20 a 21 Mehefin. Bydd S4C yn gwe-ddarlledu’r perfformiad cyntaf yn fyw o 7.30 ymlaen ar nos Fercher 20 Mehefin - y tro cyntaf i’r Sianel we-ddarlledu perfformiad cerddorol yn fyw ar ei gwefan yn fyd-eang.

Darlledir yr opera ar deledu S4C yn y rhaglen Trioleg Mandela nos Sul, 24 Mehefin am 8.00 o'r gloch.

Mae’r opera’n dilyn bywyd hynod Nelson Mandela, o fod yn garcharor i ddod yn arlywydd De Affrica. Mae’r opera wedi ei gosod mewn tair rhan gyferbyniol sy’n dangos magwraeth draddodiadol Mandela yn ardal yr Eastern Cape, awyrgylch gythryblus y trefgorddau ar ddechrau Apartheid ac, yn olaf, blynyddoedd maith Mandela dan glo.

Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio nifer o wahanol steiliau cerddorol ac yn cynnwys cast o fwy na 40 o berfformwyr i adrodd stori un o ffigyrau mwyaf eiconig y byd heddiw.

Meddai Paul Islwyn Thomas o Bulb Films, cynhyrchwyr y darllediadau ar S4C a gwefan S4C, "Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn hollol allweddol yn sicrhau mai yng Nghaerdydd a Chymru mae perfformiad cyntaf Ewrop o’r opera bwysig hon. Mae Cwmni Opera Cape Town wedi cael perthynas hir gyda’r Ganolfan drwy eu noddwr sefydlol Syr Donald Gordon. Bu’r Cwmni’n perfformio yng nghyngerdd agoriadol y Ganolfan ac mae’r berthynas wedi parhau ers hynny.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae gwe-ddarlledu’r perfformiad yn fyw ar ein gwefan dros y byd yn gam arloesol i ni yn S4C ac yn ddatblygiad sy’n cydnabod bod ein cynulleidfa yn newid o fod yn wylwyr teledu i fod yn wylwyr sy’n mwynhau ein rhaglenni ar wahanol blatfformau. Rydym yn hynod falch ein bod wedi sicrhau’r hawliau i we-ddarlledu perfformiad cyntaf yr opera yn Ewrop yn ecsgliwsif ac yn fyd-eang."

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru fydd yn cyfeilio yn y perfformiad. Mae’r gerddoriaeth gan Allan Stephenson, Mike Campbell a Péter Louis van Dijk. Ysgrifennwyd y libreto gan Michael Williams sydd hefyd yn cyfarwyddo’r perfformiad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?