S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dangos Mamwlad mewn Gŵyl Ryngwladol

21 Mehefin 2012

Bydd un o gyfresi ddogfen S4C yn cael eu dangos yn ystod Gŵyl Cymry Gogledd America eleni.

Mamwlad, y gyfres lle’r oedd yr awdures Ffion Hague yn adrodd hanes menywod sydd wedi gadael eu marc ar hanes Cymru, fydd yn cael ei harddangos i gynulleidfa ehangach yn ystod sesiynau sinema arbennig yn yr Ŵyl.

Cynhelir yr Ŵyl eleni yn Scranton, Pennsylvania rhwng 30 Awst a 2 Medi ac mae disgwyl y bydd dros 1,000 o Gymry America yno i fwynhau dathliad o ddiwylliant Cymru.

Roedd y gyfres chwe rhan, sydd wedi’i chynhyrchu gan gwmni teledu Tinopolis, yn rhoi sylw i saith menyw ryfeddol – Megan Lloyd George, Margaret a Gwendoline Davies, Kate Roberts, Arglwyddes Llanofer, Cranogwen a Laura Ashley. Bu’r gyfres yn gwerthfawrogi campau’r merched hyn gan ddenu sylw at y rhwystrau oedd yn eu ffordd a’r dewrder gymerodd iddyn nhw herio pawb a phopeth.

Meddai Gerri Baker Parry, un o drefnwyr yr Ŵyl, “Bob blwyddyn yn ‘Sinema Cymru’, rydym yn ceisio cynnig un rhaglen am berson Cymreig sydd wedi cael effaith ar hanes. Roeddem yn hynod falch fod S4C wedi comisiynu chwe rhaglen am fenywod dylanwadol yn y gyfres Mamwlad ac rydym yn falch iawn bod S4C a Tinopolis wedi caniatáu inni ddangos nhw yn yr Ŵyl. Rwy’n hyderus y byddan nhw’n boblogaidd iawn ymhlith y gynulleidfa.”

Ymhlith y gweithgareddau yn ystod Gŵyl Cymry Gogledd America eleni bydd Eisteddfod draddodiadol, cyngerdd agoriadol gyda’r canwr Dafydd Iwan a chyngerdd fawreddog yng nghwmni Côr Godre’r Garth o Bontypridd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?