S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwledd Gerddorol Bryn ar S4C

03 Gorffennaf 2012

Bydd S4C yn darlledu rhaglen ddwy awr o uchafbwyntiau gŵyl gerddorol Bryn Terfel sy’n cael ei chynnal ar y Southbank yn Llundain.

Mae Bryn yn hapus fod S4C trwy ddarlledu Bryn Terfel: Gŵyl y Byd nos Sul, 15 Gorffennaf, am 8.00 o’r gloch, yn rhoi’r cyfle i wylwyr y Sianel gael blas ar Brynfest, sydd, meddai, yn rhoi cyfle i ni’r Cymry arddangos ein talent.

“Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at Brynfest,” meddai Bryn. “Mae’n anrhydedd cael perfformio am un noson yn y lleoliad gwych hwn, ac mae cael cynnig cynnal gŵyl dros bedair noson yma yn anhygoel! Dwi erioed wedi cael pedwar cyngerdd yma yn olynol. Dwi’n teimlo’n eitha’ cyffrous am y peth!

“Mae’n amser pwysig yn Llundain gyda’r gemau Olympaidd ar y gorwel. Mae’n cynnig llwyfan i’r Cymry i ddangos ein doniau, a’n doniau ifanc. Mi fydd rhywbeth i bawb yma,” meddai’r canwr opera rhyngwladol 46 oed o Bantglas yng Ngwynedd. “Mae Cymru yn meithrin rhai pobl eithriadol o dalentog.

“Dwi hefyd yn hapus fod S4C am fod yma ac yn darlledu’r uchafbwyntiau er mwyn i bawb gartref gael y cyfle i fwynhau’r ŵyl. Mi fydd na berfformwyr gwych yn ymddangos ar y llwyfan a dwi am rannu hynny. Mi wnawn roi andros o sioe ymlaen, gobeithio!”

Gan ddechrau nos Fercher 4 Gorffennaf, bydd Brynfest yn cynnwys noson yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Broadway, gala opera, noson yng nghwmni Gruff Rhys, perfformiad gan y cerddor jazz, Huw Warren, a chyngerdd gan 500 o gantorion sy’n perthyn i gorau meibion ar draws y byd, gyda band Pres y Cory yn cyfeilio. Bydd gwaith newydd gan Karl Jenkins, A Hero’s Journey, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf y noson honno.

Bydd cantorion ifanc o Gymru hefyd yn cael y cyfle i berfformio yn ystod yr ŵyl a bydd Bryn ei hun yn arwain côr mawreddog o leisiau brwdfrydig i ganu rhai clasuron cerddorol Cymreig ar lan yr Afon Tafwys ar noson ola’r Ŵyl.

Mae Bryn yn edrych ymlaen yn arbennig at y Gala Opera, pan fydd yn rhannu llwyfan y Royal Festival Hall â Cherddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Gareth Jones. Y cantorion eraill fydd yn cymryd rhan yn y Gala fydd y soprano Oskana Dyka o’r Iwcrain, y tenor Lawrence Brownlee o’r Unol Daleithiau a’r mezzo soprano Nino Surguladze o Tbilisi, Georgia.

“Mi wnes i ganu mewn cynhyrchiad o Tosca gydag Oskana ac mi wnaeth ei llais hi fy swyno,” meddai Bryn. “Ac mi fydd y tenor ifanc Lawrence Brownlee yn codi’r to yn sicr. Bydd yn canu un aria sy’n cynnwys 36 ‘C’ uchel!”

Bydd Bryn yn canu rhan y Barwn Scarpia mewn cynhyrchiad o Tosca ym Munich ar ôl Brynfest, “ac yna dwi’n gobeithio cael gwylia bach yn Sbaen gyda’r plantos cyn dychwelyd i Lundain i ganu rhan Wotan, Brenin y Duwiau, yng Nghylch y Fodrwy Wagner yn y Royal Opera House.”

Bydd y pedair opera sy’n rhan o’r Cylch yn cael eu perfformio, ac mi fydd Bryn yn canu mewn tair ohonyn nhw.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr ac eto yn ofnus o’r hyn sy’n o’n blaenau ni, a beth fydd yn digwydd ar ein taith. Dyma fy Everest i,” meddai. “Mae’r cyfle yma yn rhoi cyfle i mi wireddu’r breuddwyd sy gen i ers yn ifanc iawn o ganu mewn cynhyrchiad cyfan o’r Cylch yn y Royal Opera House.”

Dywed ei fod wedi hen ymdopi erbyn hyn â’r pwysau anferthol sydd arno wrth ganu mewn rhai o dai opera mwya’r byd. “Mae’n fwynhad pur ond eto mae’n waith caled, does dim dwywaith am hynny,” meddai.

Nid yw’n bwriadu parhau i ganu ar lwyfannau ar draws y byd hyd nes iddo gyrraedd ei 70au, fel Tom Jones.

“Dwi’n gweld fy hun yn pysgota neu’n taro’r bêl fach wen ar ddarn o dir hyfryd yn yr haul gan wybod y byddai wedi gwneud fy ngwaith.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?