S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Elan Closs Stephens yn ymuno ag Awdurdod S4C

12 Gorffennaf 2012

  DATGANIAD AR Y CYD GAN AWDURDOD S4C AC YMDDIRIEDOLAETH Y BBC

Heddiw croesawodd Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C apwyntiad Elan Closs Stephens i Awdurdod S4C.

Bydd yr Athro Emeritws Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru , sydd wedi ei phenodi gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, yn cychwyn yn y swydd yn syth ac yn mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r Awdurdod heddiw (dydd Iau).

Mae apwyntiad Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru i’r Awdurdod yn deillio o’r cytundeb rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r DCMS ar gyllido, llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol hyd at 2017.

Rôl yr Athro Stephens fydd i fod yn gyfrwng cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C er mwyn sicrhau fod annibyniaeth golygyddol a gweithredol S4C yn cael ei warchod, ac i sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC am yr arian ffi trwydded a werir gan y sianel.

Dywedodd yr Athro Stephens: “Rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i Awdurdod S4C. Fy mhrif flaenoriaeth fydd helpu i sicrhau fod S4C yn darparu’r gwasanaeth teledu gorau posib i siaradwyr Cymraeg, ac i warchod annibyniaeth golygyddol S4C, tra’n gofalu bod arian ffi’r drwydded yn cael ei wario’n ddoeth. Rwy’n benderfynol fod perthynas gwaith agosach rhwng BBC Cymru ac S4C yn arwain at ail-fuddsoddi arbedion mewn rhaglenni o ansawdd uchel er budd cynulleidfaoedd.

“Fy ngobaith hefyd yw y bydd y bartneriaeth yn arwain at danio brwdfrydedd a chefnogi creadigrwydd yn y cyfryngau Cymreig.”

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Rwy’n croesawu penodiad Elan Closs Stephens fel aelod o Awdurdod S4C. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfraniad allweddol y bydd gan Elan i’w wneud yn y broses o greu partneriaeth newydd effeithiol rhwng S4C a’r BBC.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

1. Ar 20 Hydref 2010, cytunodd y BBC gyda’r Llywodraeth ar setliad ffi trwydded ar gyfer gweddill cyfnod y Siarter hyd at 2016/17: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/strategy/licence_fee/2010_settlement.html?lang=cy

Roedd hyn yn cynnwys model partneriaeth a chyllido newydd ar gyfer S4C a fydd yn gweld y cyfraniadau dilynol i S4C o ffi’r drwydded - £76.3m (2013/14), £76m (2014/15), £75.25m (2015/16) a £74.5m (2016/17).

2. Yn academydd wrth ei gyrfa ers 1976 mae Elan Closs Stephens wedi datblygu enw da Prifysgol Aberystwyth fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer cyfathrebu a diwydiannau creadigol. Ochr yn ochr gyda’i gyrfa academaidd mae Dr Closs Stephens wedi magu profiad mawr iawn mewn polisi a rheoleiddio drwy ei rôl ar Gyngor Darlledu Cymru ac fel cyn Gadeirydd S4C. Mae hi yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a faged yng ngogledd Cymru ac mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o ddyheadau talwyr ffi’r drwydded, ochr yn ochr a’i blynyddoedd o brofiad o ddarlledu Cymreig. Gellir darllen ei bywgraffiad llawn yma:

http://www.bbc.co.uk/bbctrust/who_we_are/trustees/elan_closs_stephens.html?lang=cy

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?