S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darllediadau cynhwysfawr o’r Sioe Frenhinol ar S4C

16 Gorffennaf 2012

Mae yna rywbeth i bawb o bob oed ar S4C yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni.

Bydd y Sianel ynghanol y cystadlu gyda darllediadau di-dor a mwy o oriau nag erioed o’r blaen o Faes y Sioe rhwng 23 a 26 Gorffennaf. O fore gwyn tan nos, fe fydd tîm cyflwyno S4C yn darlledu’r gorau o’r prif gylchoedd, yn ogystal â chyfarfod y cystadleuwyr, y beirniaid ac ymwelwyr y Sioe Frenhinol o amgylch y maes.

Yn ystod y dydd rhwng 9.00am a 5.30pm, bydd y cyflwynwyr Dai Jones, Nia Roberts, Ifan Jones Evans a Meinir Jones yn gohebu o wahanol ardaloedd ar y maes a bydd Wyn Gruffydd yn sylwebu o’r prif gylch. Gyda’r nos, bydd Shân Cothi yn ymuno â Dai i grynhoi holl ddigwyddiadau’r dydd – y cystadlu, yr hwyl a’r bwrlwm.

Ar nos Sul, 22 Gorffennaf, darlledir rhaglen ragflas arbennig fydd hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau ‘Moliant y Maes’, sef cymanfa ganu o'r Maes.

Yn ogystal â’r darllediadau teledu, bydd modd gwylio rhaglenni’r sioe yn fyw ar y wefan. Hefyd, bydd ffrwd fyw ddi-dor ar-lein yn fyd eang o’r prif gylch gydol wythnos y Sioe o 8.00am hyd 1.00pm ar s4c.co.uk/sioe.

Am y tro cyntaf hefyd, bydd modd i wylwyr teledu di-Gymraeg fwynhau sylwebaeth Saesneg yn ystod cystadlaethau stoc yr anifeiliaid.

Eleni bydd y tro cyntaf i Meinir Jones, un o gyflwynwyr Ffermio ar S4C, ohebu o’r Sioe.

Meddai Meinir, "Y Sioe Frenhinol yw’r Gemau Olympaidd i amaethwyr, cynhyrchwyr bwyd a phawb sy’n gysylltiedig â chefn gwlad yng Nghymru. Yn sicr mae’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Dwi wedi bod yn mynychu’r sioe erioed ac wedi cael profiadau bythgofiadwy dros y blynyddoedd. Ble arall y cewch chi brofiadau o flasu bwyd gorau’r wlad, gweld anifeiliaid o bob math yn cael eu harddangos, cystadlu brwd y ffermwyr ifanc a chyfle am glonc gyda chyfeillion hen a newydd?

"Mae’n fraint ac anrhydedd enfawr i ymuno â thîm cyflwyno rhaglenni’r sioe. Yn ystod yr wythnos, fe fydda i yng nghylch y defaid yn dod â’r cystadlu a'r canlyniadau yn fyw i chi. Rwy’n siŵr bydd hi ychydig yn wahanol i fod wrth ochr y cylch eleni yn hytrach nag yn ei ganol yn cystadlu gyda fy nefaid."

Mae tîm cynhyrchu’r Sioe/12 hefyd yn awyddus i glywed gan y gwylwyr ar wefannau cymdeithasol Twitter, Facebook a Pinterest. Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf ac anfon eich sylwadau at gyfeiriad Twitter @S4CSioe neu ddechrau sgwrs gan ddefnyddio #YSioe. Yn ogystal, gallwch rannu eich lluniau o’r Sioe drwy uwchlwytho ar wefan Pinterest – S4CSioe.

Mae yna rywbeth i wylwyr ifanc S4C hefyd gyda chyflwynwyr Stwnsh yn darlledu’n fyw o Lanelwedd. Lois Cernyw ac Owain Gwynedd fydd yn cyflwyno sialensiau a thasgau byw o’r maes am 5.30pm rhwng dydd Llun a dydd Iau yng nghwmni’r plant a phobl ifanc sy’n ymweld â’r Sioe.

Ar nos Fawrth 24 Gorffennaf, bydd Hacio’n darlledu rhifyn arbennig o’r gyfres materion cyfoes i bobl ifanc o Lanelwedd gyda Hanna Hopwood ac Owain Phillips. Eleni mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn codi arian at Ambiwlans Awyr ac fe fydd y tîm yn holi ffermwyr ifanc sydd wedi dibynnu ar gymorth gan yr Ambiwlans Awyr yn sgil damweiniau yng nghefn gwlad.

Y Sioe/12

Nos Sul 22 Gorffennaf 8.00pm, S4C

Dydd Llun 23 – Dydd Iau 26 Gorffennaf o 9.00am, S4C

Rhaglenni uchafbwyntiau (Llun i Iau) 8.25pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar Alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Boomerang+ ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?