S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle unigryw pedwar unigolyn ifanc i Newid Byd

20 Gorffennaf 2012

Mae antur fythgofiadwy yn wynebu pedwar person ifanc o Gymru wrth iddynt deithio i ben draw’r byd i gael blas ar wirfoddoli mewn gwlad dramor – a hynny ar gyfer cyfres deledu ar S4C.

Fe fydd Iestyn Wyn Lewis o Lannerch-y-medd, Luis Miles Evans o Fro Morgannwg, Rachel Lewis o Bontarddulais a Ceri Elsbeth Lewis o Bwllheli yn teithio i Uganda ym mis Awst lle byddant yn cael eu ffilmio ar gyfer ail gyfres Newid Byd.

Dros y misoedd diwethaf, mae cynhyrchwyr cwmni teledu Telesgop wedi ymgymryd â phroses ddwys o ddewis a dethol rhwng degau o bobl ifanc i gymryd rhan yn yr her unigryw hon.

“Mae’r pedwar sydd wedi cael eu dewis yn bobl ifanc weithgar a brwdfrydig iawn,” meddai Mererid Wigley, cynhyrchydd y gyfres.

“Dwi’n hyderus y byddan nhw’n gallu ymateb i’r her fydd yn eu hwynebu. Dwi’n gobeithio hefyd y byddan nhw’n ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ddilyn eu hesiampl a mynd ati i helpu eraill yn eu cymunedau eu hunain.”

Bydd Rachel, Iestyn, Luis a Ceri yn teithio i Uganda mis nesaf am dair wythnos o waith gwirfoddol pwysig, dan ofal yr arweinydd profiadol Arwel Phillips.

Yno, fe fydd y pedwar yn cynorthwyo mewn prosiectau cymunedol pwysig er mwyn gwella ffordd o fyw i’r cymunedau. O adeiladu sied geifr i sefydlu llyfrgell, cynaeafu coffi a phlannu coed, fe fydd yn cynnig blas iddynt o ddiwylliant gwlad Uganda.

Yn ystod yr her fythgofiadwy, byddant hefyd yn cydweithio â nifer o elusennau fel Dolen Ffermio, Size of Wales, Child of Hope, Pont a Masnach Deg Cymru ac yn canolbwyntio’n benodol ar brosiectau fydd yn helpu cymunedau yn ardal Mbale yn nwyrain y wlad.

Bydd Newid Byd yn dychwelyd i S4C yn hwyrach yn y flwyddyn.

Diwedd

Nodiadau Golygyddol:

Y pedwar person ifanc sy’n cymryd rhan yn ail gyfres Newid Byd yw Iestyn Wyn Lewis, Luis Miles Evans, Rachel Lewis a Ceri Elsbeth Lewis.

Iestyn Wyn Lewis - 17 oed, Llannerch-y-medd, Ynys Môn

Cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern yw Iestyn. Mae Iestyn yn weithgar iawn yn y gymuned - yn gwirfoddoli gyda’r Urdd, yn aelod o fforwm sirol dros hawliau pobl ifanc ‘Llais Ni’ ac yn gynrychiolydd o’r ‘Ddraig Ffynci’, sy’n rhan o Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru. Eleni, derbyniodd wobr am ei waith gwirfoddol gan Gyngor Ynys Môn.

“Agwedd bendant o’r prosiect sy’n apelio yw’r syniad o greu newid ym mywydau pobl. Mae’n anrhydedd pur cael gweithio gyda’r prosiect yn ogystal â gweithio mewn tîm brwdfrydig! Mi fydd gwirfoddoli mewn gwlad dramor yn anhygoel, i weld ein gwaith yn creu newid ym mywydau eraill!”

Luis Miles Evans - 17 oed, Penrhyn y Rhws, Bro Morgannwg

Disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Morgannwg yw Luis lle mae’n astudio Cemeg, Ffiseg, Mathemateg a Graffeg. Mae’n mwynhau pob math o chwaraeon ond yn y dŵr mae e’n teimlo fwyaf cartrefol gan iddo ymddiddori mewn syrffio a nofio. Cynrychiolodd Cymru mewn cystadlaethau nofio ar sawl achlysur. Mae’n achubwr bywyd ar draeth Ynys y Barri ac yn y Pwll Olympaidd ym Mae Caerdydd yn ei amser sbâr.

“Dwi’n teimlo’n gyffrous fy mod yn rhan o Newid Byd gan mai pwrpas y daith yw helpu’r bobl leol sydd yn byw mewn ardaloedd llai datblygedig. Dwi ddim yn gwybod rhyw lawer am Uganda, felly fe fydd y trip yma yn agor fy llygaid i’r holl dlodi a niwed sy’n bodoli yn y wlad. Bydd y profiad yma yn newid sut dwi’n edrych ar bobl, ac efallai yn newid sut dwi’n ymateb i sefyllfaoedd tebyg.”

Rachel Lewis - 18 oed, Pontarddulais

Mae Rachel yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Ei gobaith yw dilyn gyrfa ym myd nyrsio a gofal iechyd plant, felly i ennyn profiad yn y maes mae Rachel wedi bod yn gwirfoddoli mewn clybiau ieuenctid i blant awtistig a rhai ag anableddau dysgu difrifol drwy gynllun Local Aid. Pan nad yw hi’n gwirfoddoli, mae Rachel wrth ei bodd yn chwarae pêl-rwyd, coginio a gofalu am anifeiliaid.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld diwylliant gwahanol, cwrdd â’r bobl ac i wynebu’r sialensiau gwahanol. Mae helpu eraill a gwneud gwahaniaeth yn bendant yn apelio ataf. Mae bod yn rhan o Newid Byd yn arbennig iawn i mi er mwyn i mi geisio gwneud gwahaniaeth i eraill, ac i hybu pobl ifanc i wirfoddoli. Rwy’n barod am yr her.”

Ceri Elsbeth Lewis - 18 oed, Pwllheli

Mae cyfnod Ceri yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli newydd ddod i ben ar ôl iddi gwblhau ei harholiadau Lefel A. Nid dyma’r tro cyntaf iddi wirfoddoli mewn gwlad dramor. Yn 2011, aeth Ceri i wirfoddoli ym Mhatagonia gyda’r Urdd. Yn ei hamser sbâr, mae Ceri’n hoff o gadw’n heini a pherfformio gydag Aelwyd Chwilog a Chôr Glanaethwy.

“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y wlad cyn dod i gysylltiad â’r prosiect yma, ond ers ymchwilio ac edrych ar luniau, dwi wedi sylwi pa mor dlawd yw’r ardal. Mae meddwl fy mod yn helpu pobl sy’n llawer llai ffodus na ni yn un arbennig iawn. Mi fydd gweithio dramor yn gyfle gwych i helpu eraill, ceisio gwneud gwahaniaeth a sylweddoli pa mor braf ydyn ni’n ei chael hi adra!”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?