S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Uchafbwyntiau gêm dyngedfennol YSN ar S4C

20 Gorffennaf 2012

   Bydd rhifyn arbennig o Sgorio ar S4C yn darlledu uchafbwyntiau’r gêm dyngedfennol rhwng Helsingborgs IF a’r Seintiau Newydd yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Mae’r cyfan yn y fantol i’r Seintiau, Pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Cymru a deiliaid Cwpan Cymru, yn Sweden ar nos Fercher 25 Gorffennaf (10.30pm).

Gorffennodd y cymal cyntaf yn ddi-sgor wythnos yn ôl - er bod y ddau dîm wedi mwynhau cyfleoedd anhygoel o flaen y gôl. Ond fe fydd hi’n dasg anodd i’r garfan o Groesoswallt. Helsingborg oedd y clwb cyntaf yn hanes pêl-droed Sweden i selio’r trebl llynedd.

Sgorio: Helsingborgs IF v Y Seintiau Newydd

Nos Fercher 25 Gorffennaf; 10.30pm

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?