S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhodri yn hawlio gwobr arbennig Fferm Ffactor yn Y Sioe

25 Gorffennaf 2012

  Rhodri Evans, 36 o ardal Y Bala, sydd wedi hawlio buddugoliaeth gyntaf cyfres Fferm Ffactor 2012 mewn her ar faes Y Sioe Frenhinol.

Bydd Rhodri yn dychwelyd i'w fferm fynydd yn Y Parc gyda'r wobr arbennig sef beic fferm ATV gwerth £7,800 yn rhodd gan Honda.

Ar brynhawn Mawrth, 24 Gorffennaf, roedd cyfle i ymwelwyr â'r Sioe gwrdd â deg ffermwr Fferm Ffactor 2012. Roedd tri ohonyn nhw hefyd wedi eu dewis i gystadlu am y beic Honda mewn tasg gyrru beic fferm.

Dyma oedd yr ail dro i Rhodri wynebu her Fferm Ffactor yn Y Sioe, o flaen torf o filoedd a ddaeth i gefnogi.

"Roedd y nerfau y tro yma yn waeth na'r llynedd dwi'n amau," meddai Rhodri, a oedd yn un o'r cystadleuwyr a gafodd eu hanfon adref cyn dechrau'r gyfres y llynedd yn dilyn tasg byw yn Y Sioe.

"Roedd o'n gymaint o siom y llynedd gorfod darfod y siwrnai cyn dechrau bron. Wrth drio Fferm Ffactor eto eleni dwi fel taswn i wedi rhoi fy hun ar bedestal ac yn meddwl os na wnâi’n dda eleni yna bydd gen i waith esbonio i'w wneud!"

Yn cystadlu yn erbyn Rhodri am y beic Honda roedd Robin Williams o Dudweiliog, Pen Llŷn a Dilwyn Owen o Lanedwen, Ynys Môn. Felly, ydi'r fuddugoliaeth yn rhoi hwb i hyder Rhodri ar gyfer y gyfres, sy'n dychwelyd i'r sgrin ym mis Hydref?

"Dwi ddim wedi meddwl amdano fo fel yna, ond dwi'n gobeithio os medra i wneud yn dda yn y tasgau dreifio a'r rhai ymarferol yna bydd o'n gwneud i fyny am y cwestiynau yn y gader achos dwi'n meddwl mai’r adeg hynny byddai'n diodde'," meddai Rhodri, wrth edrych ymlaen at yr her.

Bob wythnos bydd y deg cystadleuydd yn wynebu cyfres o heriau amaethyddol i brofi eu sgiliau i'r eithaf. Yn gwylio'r cyfan gyda llygad barcud bydd y beirniaid - yr Athro Wynne Jones a chyn enillydd y gyfres Aled Rees.

Un wrth un, bydd y cystadleuwyr gwanaf yn cael eu hanfon adref gan adael dim ond un i hawlio teitl Ffarmwr Gorau Cymru 2012 a'r wobr fawr – cerbyd Isuzu D-Max Yukon 4x4 pick-up.

Mae mwy o wybodaeth am bob un o'r cystadleuwyr ar y wefan - s4c.co.uk/ffermffactor

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?