S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cystadlu na welwyd erioed o'r blaen yn y Babell Lên

01 Awst 2012

Mae'r Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 yn paratoi ar gyfer digwyddiad na welwyd ei tebyg erioed o'i blaen.

Am 5.00 o'r gloch ar brynhawn Sul, 5 Awst, bydd y babell, sy'n amlwg fel man trafod goreuon barddoniaeth a llenyddiaeth yr iaith Gymraeg, yn llawn i'r ymylon wrth i rai o wynebau mwyaf cyfarwydd y genedl gael croeso ar y llwyfan.

Enw'r digwyddiad yw Eisteddfod Cyw ac yn cystadlu bydd Sali Mali, Jac y Jwc, Oli Odl, Tigi, Huwi Stomp ac wrth gwrs y rapiwr Dona Direidi - 'Be wnei di?'.

Dewch i gefnogi eich hoff gymeriadau, hen a newydd, wrth iddyn nhw berfformio am y gorau mewn Eisteddfod go wahanol i'r arfer!

"Cystadleuaeth agored yw hon gyda'r cymeriadau yn dewis beth fyddan nhw'n ei berfformio. Rydym yn edrych ymlaen at gystadleuaeth o'r radd flaenaf - boed yn ganu, dawnsio, adrodd neu chwarae offeryn - a byddwn yn gofyn i'r gynulleidfa ddangos pob chwarae teg i bawb," meddai Einir Dafydd, cyflwynydd Cyw fydd yno gyda ei chyd gyflwynydd Trystan Morris.

Yn arwain ar y llwyfan bydd dau arall o gyflwynywr Cyw Rachael Solomon a Gareth Delve a bydd llu o gymeriadau eraill o'ch hoff raglenni yno i ddangos eu cefnogaeth.

Meddai Jac y Jwc, o Bentre Bach, "Dwi'n edrych ymlaen at ennill yr Eisteddfod. Dwi erioed wedi ennill dim byd o'r blaen"

Ond mae Dona Direidi, o Dre Be Nei Di, yn hyderus mai ei rapio penigamp hi fydd yn dod i'r brig, "Fi, Dona Direidi, sy'n mynd i ennill y dydd. Dwi'n mor dda ar rapio, bydd pawb yn gorfod clapio!"

Mae Eisteddfod Cyw yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a does dim angen tocyn.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?