S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

DVD Cymraeg/Gaeleg cyntaf erioed i un o gyfresi Cyw

15 Awst 2012

Mae DVD o'r gyfres blant poblogaidd Abadas wedi ei ryddhau ar gyfer gwylwyr yng Nghymru, Yr Alban a thu hwnt.

Hon yw DVD gyntaf y gyfres a hefyd y DVD cyntaf erioed i gynnig y dewis o wylio gyda thrac sain Cymraeg neu drac sain Gaeleg.

Mae'r DVD yn cael ei chyhoeddi gan Sain ac yn gomisiwn ar y cyd rhwng Dinamo, sy'n darparu'r gyfres i S4C, a'r sianel BBC ALBA.

Cynhyrchir Abadas, sy'n rhan o wasanaeth Cyw, gan gwmni Dinamo a Kavaleer, mewn cydweithrediad â S4C, BBC ALBA, CBeebies a RTE. Cyd-lanswyd y gyfres ar y pedair sianel ym mis Hydref 2011 ac yn fuan iawn daeth yn ffefryn ymysg y gwylwyr ifanc.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C, "Mae'n wych gweld un o raglenni poblogaidd gwasanaeth Cyw ar gael ar DVD. Yn yr achos yma, mae'r galw am gynhyrchu DVD yn yr Aeleg yn ogystal â'r Gymraeg yn arwydd pendant o lwyddiant y gyfres y tu hwnt i Gymru. Rwy'n mawr obeithio mai'r cyntaf mewn nifer o fentrau tebyg yw hyn a bydd cyfleodd pellach i gyd-weithio â sianeli eraill yn y dyfodol."

Cafodd y DVD ei lansio'r wythnos diwethaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, ac mae ar gael i'w phrynu oddi ar wefan Sain.

Dywedodd Margaret Cameron o BBC ALBA, "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o gyhoeddi DVD Abadas. Mae'r gyfres a'r DVD yn enghraifft o gyd-weithio er mwyn darparu cynnyrch creadigol ar gyfer S4C a BBC ALBA gyda chefnogaeth wych gan RTE, CBeebies, Dinamo, Obh Obh Productions a Sain. Rwy'n siŵr y bydd y DVD yn diddanu plant yn y Gymraeg a'r Aeleg am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Siwan Jobbins, o Dinamo, “Rydym yn falch iawn o lwyddiant y rhaglen ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym ni a’n partneriaid dosbarthu, Ho Ho Rights, yn siarad gyda nifer o gwmnïau rhyngwladol a lleol ynglŷn â nwyddau i gyd-fynd a’r gyfres.

"Un o’r nwyddau cyntaf i ni lansio - gyda chydweithrediad Sain ac MG ALBA - yw’r DVD unigryw hon. Dyma’r DVD gyntaf i’w chyhoeddi gyda dewis o drac sain yn Gymraeg a Gaeleg. Rydym yn gobeithio y daw hi â phleser i wylwyr Cyw a chynulleidfa ifanc y sianel Gaeleg, BBC ALBA”.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?