S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

13 Gwobr BAFTA Cymru i S4C

01 Hydref 2012

    Ar ôl i gynyrchiadau a ddangoswyd ar S4C ennill 13 o'r 31 o wobrau a roddwyd yn Seremoni BAFTA Cymru 2012, meddai Prif Weithredwr S4C Ian Jones:

“Mae’r llwyddiant yma’n dangos y cyfoeth o raglenni cyffrous a diddorol sydd i’w gael ar S4C drwy’r amser. Eleni mae rhaglenni S4C wedi mynd a thros draean o'r gwobrau. Mae’n gydnabyddiaeth ardderchog i ni, ac yn arbennig i’r holl gynhyrchwyr ‘dan ni'n gweithio gyda nhw i greu arlwy o’r safon uchaf. Dan ni’n ddiolchgar iawn i BAFTA Cymru am y gydnabyddiaeth bod 'na gymaint o raglenni arbennig i’w cael ar S4C i bobl Cymru eu mwynhau.

“Mae ennill gwobrau BAFTA Cymru yn brawf o holl waith a chreadigrwydd cynhyrchwyr Cymru wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu arlwy o safon ryngwladol ar gyfer pobl Cymru. O ddrama i newyddion, o raglenni ffeithiol i raglenni adloniant - mae S4C yn benderfynol o ddal i ddarparu teledu o safon, a rhywbeth i bawb.”

Diwedd

Holl enillwyr S4C

Cyfres Ffeithiol - Ras yn erbyn Amser

Rhagen Gerddoriaeth ac Adloniant - Bandit

Dylunio Cynhyrchiad - Alys

Sain - Patagonia

Ffotograffiaeth a Goleuo - Burton: Y Gyfrinach?

Golygu: Ffuglen - Patagonia

Cyflwynydd - Ras yn erbyn Amser

Ffotograffiaeth Ffeithiol - Llwybr yr Arfordir

Coluro a Gwallt - Patagonia

Rhaglen Blant (Yn Cynnwys Animeiddiad) - Dim Byd

Sylw'r Newyddion - Newyddion 9/11

Dylunio Graffeg - Newid Byd

Cyfarwyddwr: Ffuglen - Patagonia

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?