S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyd-weithio i gynhyrchu drama newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg

04 Hydref 2012

  Heddiw mae S4C yn cyhoeddi cytundeb i gynhyrchu cyfres dditectif newydd fydd yn cael ei dangos yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bydd Mathias, cyfres newydd gan Fiction Factory yn dechrau saethu yn yr Hydref. Richard Harrington fydd yn chwarae’r prif gymeriad, DCI Tom Mathias gyda Marc Evans yn cyfarwyddo a Gethin Scourfield ac Ed Talfan yn cynhyrchu.

Mae'r gyfres yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac ALL3MEDIA International, a bydd yn cael ei dangos ar S4C yn 2013. Dyma'r gyfres ddrama gyntaf i gael ei chynyrchu yn y ddwy iaith ar gyfer darlledu ar S4C a BBC Cymru Wales. Mi fydd y fersiwn Saesneg, dan yr enw Hinterland, yn cael ei ddarlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014 a’i ddosbarthu’n rhyngwladol gan ALL3MEDIA International.

Arwr y gyfres yw DCI Tom Mathias, ditectif greddfol a dawnus sy'n mynnu cyfiawnder, ac yn llwyddo er gwaethaf ei ddulliau anarferol.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Mae Mathias yn gyfres gynhyrfus, iasol a dyfeisgar a fydd yn cyflwyno straeon na ellid mo’u colli.

"Mae yna ddilyniant enfawr i gyfresi ditectif cyfoes ac rwy'n hyderus y bydd Mathias yn apelio at wylwyr presennol S4C a chynulleidfaoedd newydd.

"Mae hwn yn brosiect mawr iawn i S4C a rydym yn edrych ymlaen i gydweithio yn agos gyda nifer o bartneriaid wrth gynhyrchu Mathias.”

Dywedodd Ed Thomas, uwch-gynhyrchydd a chyd-grëwr y gyfres, “Fel cwmni i ni’n ymdrechu i gynhyrchu drama sy’n adlewyrchu Cymru fodern a deinamig. Gyda Mathias – ac o gofio poblogrwydd y ‘genre’ – mae gennym gyfle i roi platfform i dalent Gymreig serennu ar lwyfan lleol a rhyngwladol”.

Bydd y gwaith ffilmio yn digwydd yng Ngheredigion, gyda thref Aberystwyth a rhai o adeiladau a lleoliadau nodweddiadol yr ardal yn chwarae rôl allweddol yn y ddrama.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?