S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioe Nadolig Cyw ar daith rownd yr ysgolion eleni

09 Hydref 2012

Fe fydd digon o hwyl a sbri’r Nadolig ar gyfer plant Cymru wrth i Sioe Nadolig Cyw fynd ar daith i ddeg lleoliad gwahanol ledled y wlad.

Seren Nadolig Cyw yw enw’r Sioe ac mae 40 munud o ddawns, cân a hwyl yn disgwyl y plant lwcus wrth iddyn nhw weld sut mae Cyw a’i ffrindiau yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr.

Y tro hwn fe fydd y sioe boblogaidd yn cael ei llwyfannu mewn deg lleoliad drwy Gymru.

Mae ysgolion cynradd a grwpiau/ysgolion meithrin yn gallu ceisio am docynnau, fel eu bod yn gallu trefnu trip arbennig i weld y sioe liwgar.

Bydd Rapsgaliwn, Dona Direidi, Twm Tishan, Ben Dant, Oli Odl, Tigi, Cyw a’r cyflwynwyr Rachael Gareth, Trystan ac Einir yno i’w croesawu.

Fe fydd y sioe ar daith am ddeg diwrnod, rhwng Llun, 26 Tachwedd a Gwener, 7 Rhagfyr gan lwyfannu Seren Nadolig Cyw mewn ysgolion uwchradd yn Y Drenewydd, Dolgellau, Caernarfon, Rhuthun, Llangollen, Caerdydd, Abertawe, Y Coed Duon, Caerfyrddin ac Aberteifi.

Bydd tripiau i weld y sioe yn cael eu trefnu trwy’r ysgol neu’r grŵp meithrin yn unig gyda’r plant yn mynd i’r sioe gyda’u hathrawon a’u cynorthwywyr dosbarth o’r ysgol.

Y pris mynediad fydd £5 y plentyn, gydag athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn cael mynd yn rhad ac am ddim.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffîld Lloyd Lewis, “Mae yna gryn edrych ymlaen at weld y sioe yn cael ei llwyfannu ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni wedi dewis y lleoliadau’n ofalus fel y bydd y sioe o fewn cyrraedd y nifer fwya’ posibl o blant meithrin a chynradd. Dan ni’n bwriadu cynnal sioeau mewn 10 lleoliad - sy’n cymharu â phump y llynedd - a byddwn ni’n gallu cynnal dros 25 o sioeau.”

“Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous, gan fod y Sioe yn mynd i galon ein cymunedau ledled Cymru. Mae’r ysgolion unigol wedi croesawu’r cyfle i roi llwyfan i sioe Nadolig draddodiadol S4C a chroesawu plant cynradd a meithrin yno.

“Er yr holl gyni ariannol mae S4C wedi wynebu, rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod Sioe Cyw yn dal i allu cyrraedd cymaint â phosib o blant Cymru fel eu bod yn gallu mwynhau tymor y Nadolig efo Cyw a’i ffrindiau.”

Diwedd

Taith Seren Nadolig Cyw:

Llun, 26 Tachwedd, Ysgol Uwchradd y Drenewydd - Sioeau am 9.45am, 11.15am

Mawrth, 27 Tachwedd, Ysgol y Gader, Dolgellau - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Mercher, 28 Tachwedd, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Iau, 29 Tachwedd, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Gwener, 30 Tachwedd, Ysgol Gyfun Dinas Brân, Llangollen - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Llun, 3 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Llanedeyrn, Caerdydd - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Mawrth, 4 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Mercher, 5 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Y Coed Duon - Sioeau am 09.45am, 11.15am.

Iau, 6 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Gwener 7 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Aberteifi - Sioeau am 10.00am, 11.30am, 1.45pm

Fe fydd S4C yn anfon e-bost at ysgolion a grwpiau meithrin i egluro’r drefn ar gyfer archebu tocynnau.

Os ydych chi’n gweithio i ysgol neu grŵp meithrin ac eisiau trefnu trip, cysylltwch ag Einir ar 029 20916667 neu e-bostio einir@mrproducer.co.uk

Os ydych chi’n awyddus i’ch plentyn chi weld Sioe Nadolig Cyw 2012, cysylltwch â’ch ysgol neu grŵp meithrin.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141 neu ar e-bost, gwifren@s4c.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?