S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd Awdurdod S4C yn croesawu aelodau newydd

11 Hydref 2012

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wedi estyn croeso cynnes i ddau aelod newydd o’r Awdurdod. Mae neges Mr Jones yn dod ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyhoeddi penodiadau Aled Eirug a Dr Carol Bell.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones:

"Rwy’n falch iawn o groesawu’r aelodau newydd i Awdurdod S4C. Mi fyddwn yn elwa ar yr ystod eang a chyfoethog o brofiad a sgiliau sydd ganddyn nhw. Fe fydd ganddynt gyfraniad pwysig i’w wneud i’r gwaith o sicrhau fod S4C yn darparu gwasanaeth cofiadwy a chyfoes yn y cyfnod sydd o’n blaenau."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?