S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y gwylwyr i ddewis eu hoff raglenni i ddathlu 30 mlynedd o S4C

18 Hydref 2012

   Eich Sianel chi yn eich dwylo chi – y gwylwyr i ddewis eu hoff raglenni i ddathlu 30 mlynedd o S4C

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd S4C yn 30 oed, y gwylwyr fydd yn dewis pa raglenni fydd yn cael eu dangos ar y Sianel.

Fe fydd pleidlais arbennig yn cael ei chynnal fydd yn galluogi’r gynulleidfa i ddewis eu ffefrynnau o 30 o hoff raglenni S4C. Bydd pum categori - gydag enillydd un categori yn cael ei ddangos bob nos yn ystod wythnos y pen-blwydd.

Fe gaiff y pôl ei lansio ar raglen Heno ar nos Iau, 18 Hydref, pan fydd y dewisiadau ym mhob categori’n cael eu datgelu’n fyw ar yr awyr. Y pum categori fydd Plant, Comedi, Adloniant/Cerddoriaeth, Chwaraeon/Digwyddiadau a Drama.

Bydd chwe opsiwn ym mhob categori – gyda’r dewisiadau’n cael eu datgelu ar yr un pryd ar wefan S4C lle bydd modd i wylwyr bleidleisio.

Yna yn ystod wythnos y pen-blwydd sef 29 Hydref hyd at 2 Tachwedd, fe fydd y rhaglenni sydd fwyaf poblogaidd yn cael eu datgelu yn fyw unwaith eto ar Heno. Fel rhan o’r cyffro fe fydd un pleidleisiwr lwcus yn ennill teledu neu ipad bob nos yn ystod wythnos y dathlu yn fyw ar y rhaglen.

Yn ôl Angharad Mair, golygydd Heno, mae llawer o gyffro ynghylch y cyfle i dwrio yn yr archif:

"Mae criw Heno yn edrych ymlaen yn fawr iawn at allu datgelu pa raglenni sydd ymysg y 30 rhaglen boblogaidd y bydd ein gwylwyr yn cael dewis ohonyn nhw. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hi wedi arwain at gryn drafod yn y swyddfa - rhai’n mynd am eu ffefrynnau presennol, a lot o hel atgofion am y clasuron hefyd.

"Yna ar ôl i’r pleidleisio ddigwydd, fe gewch chi’r canlyniadau ar Heno hefyd - wrth i ni ddatgelu pa raglenni bydd y gwylwyr wedi’u dewis i gael eu dangos ar S4C yn ystod wythnos y pen-blwydd. Ac wrth gwrs bydd yr wythnos honno’n fwy arbennig i bum gwyliwr lwcus, gan ein bod ni’n rhoi pum teledu neu ipad i ffwrdd fel gwobrau arbennig."

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Mae’r gynulleidfa wedi bod yn ganolog i holl weithgareddau'r Sianel dros y 30 mlynedd diwethaf felly fel rhan o'r dathliadau rydym yn trosglwyddo oriau o’n hamserlen i’r gynulleidfa gyda'r gystadleuaeth archif.

"Mae S4C wedi bod yn rhan annatod o fywydau nifer fawr o bobl Cymru ers ei sefydlu ym 1982 ac mae atgofion sawl cenhedlaeth o Gymry o’u plentyndod yn cynnwys ein rhaglenni ni. Mae hynny’n beth arbennig iawn a dwi’n mawr obeithio y caiff y gwylwyr oriau o bleser wrth ddewis eu ffefrynnau a hel atgofion wrth eu gwylio."

Cliciwch yma i ymweld â gwefan S4C30 ac i fwrw'ch pleidlais

Diwedd.  

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?