S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwasanaeth Cyw S4C yn cael ei enwebu fel Sianel y Flwyddyn

24 Hydref 2012

 Mae S4C wedi croesawu’r cyhoeddiad bod gwasanaeth Cyw wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Sianel y Flwyddyn’ yng ngwobrau BAFTA Plant 2012.

Dyma’r trydydd tro mewn pedair blynedd i wasanaeth Cyw gael ei enwebu ar gyfer gwobr yn y seremoni flynyddol sy’n cael ei chynnal yn Llundain ddiwedd Tachwedd.

Yn ôl Comisiynydd Cynnwys (Plant) S4C, Sioned Wyn Roberts, mae’r enwebiad yn gydnabyddiaeth i’r pecyn cynnwys amrywiol sydd ar Cyw i blant Cymru.

"Mae’n braf iawn i Cyw gael ei gydnabod eto fel gwasanaeth sydd ymhlith y goreuon. Y dyddiau yma mae llawer iawn o sianeli a gwasanaethau i blant ar gael ac mae’n anrhydedd i ni gael ein gweld fel un o’r 4 uchaf, yn cystadlu am y brig. 'Da ni wedi bod yno’n gyson dros y blynyddoedd diweddar ac mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod ein gwasanaeth yn cael ei gynllunio ofalus i sicrhau ei fod at ddant plant Cymru bob dydd.

"Mae Cyw yn wasanaeth digidol modern sy’n cynnwys y rhaglenni ar deledu, ar ein gwefan ac wrth gwrs apps, er mwyn sicrhau bod modd gweld y cwbl ar ddyfeisiadau symudol. Mae’r cyfan yn ychwanegu at y gwasanaeth y mae S4C yn ei gynnig i blant a theuluoedd.

"Drwy gael ein henwebu ar gyfer gwobrau o’r math yma, dwi’n gobeithio bydd rhagor o bobl yn cael eu denu i wylio’n rhaglenni cyffrous achos ar ddiwedd y dydd, mwynhad y gynulleidfa, sef plant Cymru, sy’n bwysig i ni."

Nodiadau:

•Enwebiadau Gwobrau BAFTA Plant 2012 - http://www.bafta.org/awards/childrens/nominations-winners-2012,3492,BA.html

•Bydd y Seremoni yn cael ei chynnal ar y 25 Tachwedd 2012 yn y London Hilton, Park Lane, Llundain.

•Enwebwyd Cyw yng nghategori Sianel y Flwyddyn yn 2009 a 2010.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?