S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn diolch i Dewi Llwyd

24 Hydref 2012

  Mae S4C wedi diolch i Dewi Llwyd am ei “gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth” ar ôl i’r BBC gyhoeddi y bydd tîm cyflwyno rhaglen Newyddion yn newid yn y flwyddyn newydd. Fe fydd Dewi yn gadael y rhaglen ar ôl bron i 30 mlynedd fel aelod o’r tîm.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys:

“Mae hyn yn ddiwedd cyfnod i raglen Newyddion ac i S4C. Mae Dewi wedi bod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ein sianel ers sefydlu S4C bron i 30 mlynedd yn ôl.

“Hoffwn i ddiolch i Dewi am ei gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth ar S4C dros y 30 mlynedd a dymuno’n dda iawn iddo yn ei rôl newydd yn cyflwyno un o brif raglenni newyddion BBC Cymru ar y radio.

“Mae awdurdod a phroffesiynoldeb Dewi wedi bod yn gaffaeliad i S4C - ac rydym yn ofnadwy o falch y bydd yn parhau’n wyneb cyfarwydd i’n cynulleidfaoedd wrth iddo ddal i gyflwyno rhaglen Pawb a’i farn.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?