S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newidiadau cyffrous wrth agor cystadleuaeth Cân i Gymru 2013

25 Hydref 2012

Wrth agor cystadleuaeth Cân i Gymru 2013, mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau fydd yn ehangu cefnogaeth i'r Sîn Roc Gymraeg, gyda chymorth cylchgrawn Y Selar a BBC Radio Cymru.

Yn wahanol i drefn Cân i Gymru yn y blynyddoedd diweddar, bydd y chwe chyfansoddwr ar y rhestr fer yn derbyn lwfans o £900 i weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio gerddoriaeth o'u dewis, er mwyn cynhyrchu eu cân yn broffesiynol ar gyfer y rownd derfynol.

Bydd y chwe chân ar y rhestr fer yn cael eu dewis gan banel y rheithgor sydd eleni yn cynnwys sawl wyneb newydd: enillydd Cân i Gymru 2012, Gai Toms; cerddor a chyflwynydd Y Lle, Griff Lynch; yn cynrychioli BBC Radio Cymru bydd y gyflwynwraig Lisa Gwilym; a Gwilym Dwyfor o gylchgrawn Y Selar. Yn cadeirio'r drafodaeth bydd y cerddor Siôn Llwyd.

Eleni hefyd, yn hytrach na chyflwyno un wobr ariannol fawr i enillydd Cân i Gymru, bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng mwy o fandiau ac artistiaid i hybu datblygiad ar draws y diwydiant.

Ar y noson arbennig, ym mis Mawrth 2013, bydd prif wobr o £3,500 yn cael ei gyflwyno i enillydd Cân i Gymru 2013 a £4,000 pellach yn cael ei rannu rhwng enillwyr pedair o brif wobrau Y Selar a Gwobrau Roc a Phop (RAP) BBC Radio Cymru.

Bydd enillwyr categori 'Band Byw' a 'Cân y Flwyddyn' Y Selar, ac 'Albwm y Flwyddyn' a 'Band a Ddaeth i Amlygrwydd' gwobrau RAP yn derbyn £1,000 yr un. Y bwriad yw ehangu digwyddiad blynyddol Cân i Gymru i fod yn seremoni wobrwyo ar gyfer y Sîn Roc Gymraeg.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Rhaglenni S4C, "Mae'r newidiadau eleni yn rhai cyffrous fydd yn ymestyn dylanwad y gystadleuaeth y tu hwnt i'r digwyddiad blynyddol gyda chydweithrediad Y Selar a BBC Radio Cymru. Y bwriad ydi cefnogi artistiaid sy'n gweithio gydol y flwyddyn ar yr un pryd ag annog caneuon a chyfansoddwyr newydd i drio am wobr flynyddol Cân i Gymru.

"Mae'n braf hefyd cael croesawu wynebau newydd i'r panel rheithgor, a dwi'n siŵr eu bod nhw'r un mor eiddgar a minnau i glywed y caneuon fydd yn cystadlu eleni."

Dywedodd Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, "Mae Radio Cymru yn falch iawn o’r cyfle yma i gydweithio gyda S4C ar ddigwyddiad mor bwysig â Chân i Gymru. Mae hwn yn gyfle newydd i gerddorion chwarae’n fyw yn un o brif ddigwyddiadau cerddorol y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi gwerth ychwanegol i Wobrau Roc a Phop Radio Cymru.

"Gan mai un o’r categorïau o’r Gwobrau yw Band a Ddaeth i Amlygrwydd y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi hwb ychwanegol i gerddorion ifanc yng Nghymru."

Dywedodd Owain Schiavone, Golygydd cylchgrawn Y Selar, "Y peth pwysicaf i ni yn Y Selar yw cefnogi cerddoriaeth newydd ac artistiaid sy'n weithgar gydol y flwyddyn.

"Mae'r ffaith y bydd S4C drwy Cân i Gymru yn gwobrwyo cerddorion am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gam cadarnhaol a'r gobaith yw y bydd yn annog mwy o gerddorion i gynhyrchu hyd yn oed mwy o gerddoriaeth er mwyn hybu a chynnal sîn fywiog."

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2013 yw dydd Llun 10 Rhagfyr, 5.30 yh. Os ydych chi am gyflwyno cais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2013, ewch i s4c.co.uk/canigymru i weld y rheolau a'r amodau yn llawn ac i lawr lwytho copi o'r ffurflen gais. Neu drwy gysylltu â chwmni teledu Avanti ar 02920 838 149.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?